Y Cynghorydd Ken Taylor wedi marw

Tuesday, 19 May 2026 18:34

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae teyrngedau wedi cael eu talu yn dilyn marwolaeth sydyn y Cynghorydd Ken Taylor yn 70 oed.

Etholwyd y Cynghorydd Taylor i'r Cyngor Ynys Môn fel aelod ward dros Bro'r Llynnoedd ym mis Mai 2022.

Roedd y cynghorydd Plaid Cymru hefyd yn gadeirydd y pwyllgorau cynllunio a thrwyddedu ac fe gafodd ei ail athol i'r ddwy rôl yn gynharach y mis hwn.

Dyweddod y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth: "Roeddwn gydag ef ychydig ddyddiau yn ôl, yn dathlu canlyniad etholiad hanesyddol — canlyniad y cyfrannodd Ken yn hael tuag ato. Roedd yn braf rhannu’r foment honno gydag ef ar ôl blynyddoedd o gydymgyrchu."

"Yn Gymro i’r carn, roedd yn caru ei wlad ac yn was ffyddlon i’w gymuned fel Cynghorydd. Bydd colled fawr ar ei ôl. Rydw i’n anfon fy nghydymdeimlad at ei annwyliaid."

Dywedodd Cyngor Ynys Môn fod Mr Taylor yn "aelod ymroddedig a gwerthfawr" o'r awdurdod lleol a ddangosodd "ddiwydrwydd a barn ofalus" yn ei rolau pwyllgor.

Dwyeddod arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: "Gyda sioc a thristwch y cawsom wybod am farwolaeth sydyn Ken."

"Roedd Ken yn weithiwr caled ac yn aelod cydwybodol o grŵp Plaid Cymru a'r cyngor sir. Cyflawnodd ei ddyletswyddau gydag ymroddiad, parch a hiwmor."

"Roedd yn hynod o falch o wasanaethu ei gymuned leol ym Mro'r Llynnoedd ac wedi'i ymrwymo'n fawr i gynrychioli eu buddiannau."

"Fel cadeirydd y pwyllgor cynllunio a gorchmynion, fe chwaraeodd rôl bwysig o ran y penderfyniadau a luniodd cymunedau ar draws Ynys Môn. Roedd yn gwneud ei waith gyda thegwch, parch a theimlad cryf o gyfrifoldeb."

"Ar ran y cyngor sir, hoffwn gydymdeimlo'n arw â'i deulu, ei ffrindiau a phawb oedd yn ei adnabod."

Roedd Mr Taylor yn byw yn Y Fali, ond yn wreiddiol o Elim, Llanddeusant. Mynychodd gyfarfodydd cyngor cymuned hefyd yn Y Fali, Llanfair-yn-Neubwll a Bodedern.

Ar wahân i wleidyddiaeth yr ynys, roedd yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Bodedern ac Ysgol Uwchradd Bodedern.

Dwyeddod y Cynghorydd Gwilym O Jones, cynghorydd annibynnol yn y ward Bro'r Llynnoedd: "Roedd Ken yn gydweithiwr ac yn ffrind."

"Roedd o hefyd yn gynrychiolydd ymroddedig o'n cymunedau lleol. Roedd ganddo feddwl mawr o'r ardal a'r bobl yr oedd yn eu gwasanaethu a roedd yn ymgymryd â'i rôl gydag ymroddiad a pharch."

"Roedd hi'n fraint cael cydweithio. Bydd colled mawr ar ei ôl, yn bersonol ac yn broffesiynol ac rwy'n cydymdeimlo â'i deulu yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Ychwanegodd Dylan J Williams, prif weithredwr Cyngor Môn: "Roedd Ken yn aelod parchus ac ymroddedig o'r Cyngor a gyfrannodd yn sylweddol drwy ei waith."

"Fe ddangosodd deimlad cryf o ddyletswydd a gwasanaeth cyhoeddus drwy gydol ei gyfnod fel cynghorydd. Roedd ei agwedd benderfynol ac angerddol yn cael ei gwerthfawrogi gennym ni, fel swyddogion, a'i gyd-aelodau. Bydd colled ar ei ôl."

Yn ôl Llinos Medi, AS Ynys Môn: "roedd pawb yn cael gwybod am ei wreiddiau".

Dywedodd cyn-arweinydd y cyngor: "Cymro i’r carn, Pleidiwr angerddol a chyfaill oes. Ken, diolch am gael dy adnabod, am dy gyfeillgarwch a dy gefnogaeth barhaus. Heddiw mae bwlch enfawr i’w deulu, cymuned Y Fali ac Ynys Môn."

"Yn meddwl am Dylan a Delyth, y teulu a ffrindiau agos sydd wedi colli un o fil."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Drivetime with Supertemps

    4:00pm - 6:00pm

    Great music and MônFM's weekly jobs update with Supertemps. Find out more at www.supertemps.co.uk.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'