Mae ditectifs yn rhybuddio preswylwyr i fod yn wyliadwrus ar ôl dwy fyrgleriaeth yng Ngwynedd ar Nos Galan Gaeaf.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cadw meddwl agored ynghylch a oes cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad brynhawn Sadwrn diwethaf.
Mi riportiwyd ymgais i fwrglera a ddigwyddodd tua 4yp mewn cyfeiriad yng Nghysgod y Coed yn Mhrenteg.
Mae gan swyddogion ddiddordeb mewn siarad efo unigolyn y credir eu bod yn mynd â’u ci am dro ar y pryd, ac a darfodd ar ddau ddyn yn gwisgo balaclafas ac yn teithio mewn car BMW 340.
Os mai chi oedd yn mynd â’ch ci am dro, neu’n adnabod yr unigolyn hwn, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod 26000893842.
Am 5.25yp ar yr un diwnrod, mi riportiwyd byrgleriaeth ym Morfa Bychan, lle cafodd ffenest ei thorri er mwyn cael mynediad i dŷ.
Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a welodd ar unrhyw weithgaredd amheus yn ardal Bryn Parc i gysylltu efo’r heddlu gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod 26000893648.


Marwolaeth Caergybi: rhyddhau dyn ar fechnïaeth
Foden: cyngor yn 'hyderus' bod plant yn fwy diogel
Pont y Borth: mwy o waith cynnal a chadw
Caergybi: arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth
Gŵyl Cefni yn dychwelyd yn 2027