Caergybi: arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth

Sunday, 1 November 2026 at 20:11

By Ystafell Newyddion MônFM

Google

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn argyfwng meddygol yng Nghaergybi.

Cafodd yr heddlu a pharamedigion eu galw i gyfeiriad preswyl ar Ffordd Morawelon ychydig cyn 3.50yb fore Sul.

Mae dyn 61 oed wedi cael ei arestio ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywed ditectifs fod hwn yn ddigwyddiad unigol, ac nad oes risg parhaus i’r gymuned ehangach.

Nid oes manylion pellach ar hyn o bryd, ond mae'r heddlu'n cynyddu eu presenoldeb yn yr ardal am y 24 awr nesaf fel rhan o'u hymchwiliad.

Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Rob Mahoney o Heddlu Gogledd Cymru: "Hoffwn dawelu meddyliau'r cyhoedd ein bod yn trin hwn fel digwyddiad unigol, ac nad oes unrhyw fygythiad parhaus i'r gymuned ehangach."

"Bydd mwy o bresenoldeb heddlu yn yr ardal dros y 24 awr nesaf wrth i dditectifs barhau i ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad."

"Byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai ein cynorthwyo i gysylltu â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio byw neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod O178536."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'