Bydd mwy o waith cynnal a chadw ar Bont y Borth yn dechrau wythnos nesaf.
Bydd lôn orllewinol y bont ar gau o ddydd Llun i ddydd Gwener am dair wythnos, yn dechrau ar 2 Tachwedd, fel rhan o ail gam gwaith arfaethedig sydd ar y gweill.
Bydd yn cynnwys archwiliadau o gyfrwy tir Gorllewinol Ynys Môn; clirio a glanhau berynnau tŵr yr ochr orllewinol; ac archwiliadau pellach o echelau'r tyrau sy'n cario'r cadwyni dros y bont.
Yn ôl Traffig Cymru, bydd lôn orllewinol ar gau rhwng 9yb a 3yp o ddydd Llun i ddydd Gwener er mwyn caniatáu i'r gwaith hwn gael ei wneud yn ddiogel.
Bydd goleuadau traffig dros dro yn eu lle i reoli llif y traffig yn ystod y cyfnodau hyn.
Mae disgwyl i'r bont aros ar agor ar bob adeg arall, ond bydd y cyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell yn parhau, a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn dydd Gwener 20 Tachwedd.
Dyweddod llefarydd ar ran Traffig Cymru: "Mae'r cyfnodau byr hyn o reolaeth ar y traffig yn hanfodol wrth gyflawni ein rhaglen gynnal a chadw Cyfnod Dau, er mwyn caniatáu i'n contractwyr gael mynediad at elfennau hanfodol o'r bont mewn amgylchedd sy'n ddiogel a rheoledig iddyn nhw ac i ddefnyddwyr y bont."
"Fel gyda'n caewiad lôn sengl blaenorol, gwneir pob ymdrech i ailagor y lôn orllewinol cyn gynted â phosibl ac unwaith y bydd yn ddiogel gwneud hynny ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau."
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y gwaith cynnal a chadw i fod i gael ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2027.
Yn y cyfamser, mae gwaith datblygu yn ailddechrau ar gynlluniau ar gyfer trydydd croesiad dros y Fenai, dair blynedd ar ôl i'r prosiect gael ei roi heibio'n wreiddiol.


Caergybi: arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth
Diwedd cyfnod i siop Lamia ym Modedern
Ymddeol crys rygbi i gofio Jack
Porthaethwy: cyhuddo dyn o werthu canabis
Cerbydau wedi'u hatafaelu oddi ar yrrwr heb yswiriant