Marwolaeth Caergybi: rhyddhau dyn ar fechnïaeth

Tuesday, 3 November 2026 at 13:52

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn a gafodd ei arestio yn dilyn marwolaeth llanc yng Nghaergybi wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Morawelon yn dilyn argyfwng meddygol yn ymwneud â dyn 18 oed, yn oriau mân fore Sul.

Cafodd dyn 61 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ond mae wedi cael ei ryddhau ers hynny.

Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Gwnaeth y dyn helpu swyddogion hefo’u hymholiadau, a mae ymchwiliadau i amgylchiadau’r farwolaeth yn parhau."

Mae ditectifs yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan dyfynnu'r rhif cyfeirnod O178536.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'