Gwobrau Cymunedol MônFM 2026
Dathlu ein cymuned
Dewch i ddathlu’r bobl, grwpiau, elusennau a busnesau gwych sy’n gwneud gwahaniaeth yn ein hardal ni.
Am y gwobrau
Mae Gwobrau Cymunedol MônFM 2026 gyda Hogan Group yn gyfle i ddathlu’r bobl, grwpiau, elusennau a busnesau sy’n gwneud Ynys Môn a Gwynedd yn llefydd mor arbennig i fyw.
Bob dydd, mae pobl ar draws ein cymunedau ni yn mynd yr ail filltir i helpu eraill, gwneud gwahaniaeth a dod â phobl at ei gilydd. Yn aml iawn, mae’r gwaith caled yma’n digwydd heb lawer o sylw na chydnabyddiaeth.
Fel gorsaf radio gymunedol, rydyn ni’n falch o fod wrth galon ein cymunedau lleol. Mae’r gwobrau yma’n gyfle i ni gydnabod a diolch i’r bobl a’r sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol – boed hynny drwy wirfoddoli, codi arian, rhedeg busnes lleol neu jest bod yno i helpu eraill.
Dewch i ddathlu’r bobl sy’n gwneud ein cymunedau ni mor arbennig!
Categorïau
Addysgwr y Flwyddyn | noddir gan Cain
Person Ysbrydoledig y Flwyddyn | noddir gan Red Boat
Grŵp Cymunedol y Flwyddyn | noddir gan Signs & Design
Arwr Tawel | noddir gan AFG
Gwirfoddolwr y Flwyddyn | noddir gan Canolfan Glanhwfa
Clwb Chwaraeon y Flwyddyn | noddir gan Nifty 60s
Person Ifanc y Flwyddyn | noddir gan R & J Hughes and Son Ltd
Gwobr Cyfraniad Arbennig i’r Gymraeg | noddir gan Pili Palas Nature World
Gwobr Treftadaeth, Celfyddydau a Diwylliant | noddir gan AE & AT Lewis
Gofalwr y Flwyddyn | noddir gan Gyngor Sir Ynys Môn
Digwyddiad Cymunedol y Flwyddyn | noddir gan Big Wheelers
Codwr Arian y Flwyddyn | noddir gan Medra Rhosneigr
Busnes Lleol y Flwyddyn | noddir gan MAD Sound & Lighting Ltd
Enwebwch rŵan
Noson y Gwobrau
Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael gwahoddiad i ymuno â ni ar gyfer noson y gwobrau yng Ngwesty Bae Trearddur ar 28 Tachwedd 2026. Bydd mwy o fanylion am y noson yn cael eu rhannu yn nes at yr amser.
Mae hi’n addo bod yn noson wych o ddathlu pobl arbennig, gyda chwmni da, bwyd blasus ac adloniant gwych!
Tocynnau
Bydd tocynnau mynediad cyffredinol ar gael unwaith bydd y rhestr fer wedi cael ei chyhoeddi. Bydd pob un sydd ar y rhestr fer yn derbyn dau docyn i fynychu’r noson.
Beirniadu
Unwaith bydd yr enwebiadau’n cau, bydd yr holl enwebiadau cymwys yn cael eu hadolygu a bydd rhestr fer yn cael ei dewis ar gyfer pob categori.
Bydd ein panel o feirniaid yn edrych yn ofalus ar bob enwebiad sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, gan ystyried beth mae’r person, grŵp neu sefydliad wedi’i gyflawni, eu cyfraniad a’r gwahaniaeth cadarnhaol maen nhw wedi’i wneud i’w cymuned.
Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu cysylltu a’u gwahodd i Noson Gwobrau Cymunedol MônFM yng Ngwesty Bae Trearddur ar 28 Tachwedd 2026.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar y noson, wrth i ni ddod at ein gilydd i ddathlu eu llwyddiannau a chydnabod y gwaith gwych sy’n digwydd ar draws Ynys Môn a Gwynedd.
Ar yr Awyr
Byddwn ni’n dod â’r newyddion diweddaraf am Wobrau Cymunedol MônFM i chi ar yr awyr ar MônFM.
Ac ar noson y gwobrau, bydd rhaglen arbennig ar MônFM yn dod â’r holl ganlyniadau i chi wrth iddyn nhw gael eu cyhoeddi.

