Cafodd criwiau tân eu hanfon i dân mewn cerbyd ym Mynydd Mechell dros nos.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, anfonwyd chwe injan i'r lleoliad tua 9.30yh nos Iau.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi galw ar bobl lleol i gadw draw o’r pentref tra bod trigolion lleol yn cael eu hannog i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân fod y tân wedi’i ddwyn dan reolaeth cyn i’r criwiau adael y safle toc wedi 1.35yb fore Gwener.
Nid oes unrhyw fanylion pellach ar gael.


Llangefni: ymosodiad rhywiol ar heddwas
Digartrefedd yn y chwyddwydr mewn cyfres teledu
Prosiect i adfywio byd natur yn Nant Ffrancon
Ymestyn y cynnig gofal plant i Môn
Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid