Mae deg brentisiaid lleol wedi cael eu recriwtio gan y datblygwyr sydd y tu ôl i'r adweithydd niwclear bach (SMR) newydd yn Wylfa.
Bydd Rolls-Royce SMR yn darparu'r tair uned SMR gyntaf yng ngorsaf bŵer Gwyndod, ar ôl llofnodi cytundeb gyda'r cwmni Great British Energy yn gynharach eleni.
Bydd y grŵp cyntaf o brentisiaid, sydd wedi’u lleoli yng Ngholeg Menai yn Llangefni, yn datblygu eu gyrfaoedd a’u sgiliau fel rhan o dîm diogelwch a materion rheoleiddiol Rolls-Royce SMR.
Yn ôl y datblygwyr, byddant yn chwarae rôl bwysig o ran trawsnewid y modd y caiff prosiectau niwclear eu cyflawni trwy gyfrwng technoleg sicr ac i'w ymddiried ynddo, modiwlareiddio a dull a "adeiladwyd mewn ffatri".
Ymunodd Carwyn ar ôl cwblhau ei flwyddyn gyntaf yn astudio Safon Uwch, ac mae'n dilyn yn ôl troed y teulu gan fod ei dad eisoes yn gweithio ar safle Wylfa.
Meddai: "Mae'n gyfle gwirioneddol wych ac rydw i'n llawn cyffro o weld y pethau a ddaw i ran yr ynys yn sgil y prosiect. Gwych o beth yw gallu dilyn yn ôl troed fy Nhad a bod yn rhan o'r cyfle anhygoel hwn."
Mae Katie, a arferai fod yn rheolwr hamdden yn Llanrwst, o'r farn bod y cynllun yn ddechrau newydd. "Dydyn ni ddim yn cael llawer o gyfleoedd o'r fath yn yr ardal hon, felly mae'n wych eu bod wedi dod â rhywbeth newydd i'r ynys a'u bod wedi rhoi llu o gyfleoedd i bobl ifanc leol."
"Dyma drywydd newydd i mi ac mi fydd yn siwrnai hynod ddiddorol a chyffrous."
Yn ôl Tara, sydd wedi camu yn ei blaen o gwrs lefel 3 mewn adeiladu yng Ngholeg Menai: "Cefais flas mawr ar iechyd a diogelwch yn fy nghwrs blaenorol ac roeddwn i eisiau cymhwyso'r wybodaeth at yrfa yn y dyfodol."
"Rydw i'n edrych ymlaen at weithio yn y diwydiant niwclear yma, gan ei fod yn lleol i mi."
Dywedodd Euron, myfyriwr arall o Goleg Menai: "Roedd yn gyfle i weithio i gwmni mor fawr, cael cyflog tra'n dysgu, ennill sgiliau newydd ac ymuno â'r diwydiant. Mae'n lle gwirioneddol wych i ddechrau, yma ar garreg fy nrws."
Ychwanegodd Gwenno, sy'n ymuno'n syth ar ôl gorffen astudio Safon Uwch: "Cefais fy nenu ato oherwydd y cynllun newydd ar gyfer Wylfa. Rydw i'n edrych ymlaen at ennill sgiliau newydd a dechrau ar y siwrnai hon sy'n rhoi Gogledd Cymru wrth galon a chraidd y pontio at ynni glân."
Mae 51 o brentisiaid wedi cael eu recriwtio gan Rolls-Royce SMR fel rhan o brosiect Gwyndod, ond yn y pen draw, bydd mwy na 300 yn cael eu cyflogi.
Tommy Evans, peiriannydd peryglon mewnol Rolls-Royce SMR sy'n arwain rhai o'r prentisiaid newydd. Roedd hefyd yn brentis ar y cynlluniau a ddiddymwyd ar gyfer adweithydd ar raddfa lawn yn Wylfa Newydd.
"A minnau wedi dechrau ar fy siwrnai fy hun fel prentis yn yr ardal, rydw i'n gwybod o'r gorau pa mor bwysig yw cyfleoedd gwirioneddol ar gyfer y rhanbarth hwn," meddai.
"Mae datblygu doniau yma ar Ynys Môn yn cynnig llwybr uniongyrchol i'r unigolion uchelgeisiol hyn at yrfaoedd hynod fedrus, gydol oes."
"Trwy gael profiad ymarferol yn ymwneud â diogelwch niwclear, rheoli risgiau a chymeradwyaeth reoleiddiol, byddant yn ategu ein cynlluniau ynni glân ehangach yn uniongyrchol, gan sicrhau ar yr un pryd bod Gogledd Cymru wrth galon y cyfnod niwclear newydd."
Caiff y prentisiaid eu hategu gan gymhwyster Lefel 3 mewn Peirianneg. Bydd y garfan yn treulio eu 12 mis cyntaf yn astudio'n llawn amser yn Llangefni cyn cymhwyso'r pethau a ddysgwyd trwy brofiad ymarferol ar draws y rhaglen SMR.
Meddai Aled Jones-Griffith, prif weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Mae croesawu'r garfan gyntaf hon o brentisiaid Rolls-Royce SMR i Goleg Menai yn garreg filltir gyffrous i Grŵp Llandrillo Menai ac yn arwydd clir o barodrwydd y grŵp i sicrhau y bydd gweithlu medrus a chymwysedig ar gael yn lleol i ddiwallu'r galw ac i gynorthwyo i ddatblygu Gwyndod yn llwyddiannus."
"Trwy gyfuno addysg dechnegol o'r radd flaenaf yn Llangefni gyda phrofiad ymarferol ar y rhaglen SMR, rydym yn cynnig llwybr uniongyrchol i bobl ifanc leol at yrfaoedd hynod fedrus ar garreg eu drws."
"Mae helpu ein cymunedau lleol i ennill y profiad sy'n angenrheidiol i ategu prosiectau mawr fel Gwyndod wrth galon a chraidd ein dull, ac edrychwn ymlaen at gynorthwyo'r prentisiaid hyn wrth iddynt ddechrau ar eu siwrnai."


Gweinidog Ynni yn ymweld â phrosiect Morlais
Babi Ceri: "penderfynol o gael atebion" - heddlu
Cyllid ar gyfer twristiaeth beicio cyn Le Tour
Cyhuddo dyn o anafu yn Nhrefor
Pont y Borth: mwy o waith cynnal a chadw