Mae datblygwyr cynllun Morlais wedi galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â'i chefnogaeth i ynni llanw.
Ymwelodd y Gweinidog Ynni, Adam Price, â'r prosiect yng Nghaergybi ddydd Iau diwethaf i gynnal trafodaethau gyda uwch-swyddogion o gwmni Menter Môn.
Disgwylir i gynllun Morlais ddechrau cynhyrchu trydan glân yn y Flwyddyn Newydd.
Yn ôl y fenter gymdeithasol, mae cefnogaeth llywodraeth yn "hanfodol" os yw ynni llanw am allu cyrraedd ei botensial o ran creu twf economaidd a sicrhau budd lleol.
Dywedodd Adam Price: "Mae Morlais yn enghraifft wych o sut y gallwn ddefnyddio ein hadnoddau naturiol i adfywio’r economi, cynhyrchu ynni glân a sicrhau bod cymunedau’n ganolog i’r broses o symud tuag ati ynni adnewyddadwy."
"O gael ei ddatblygu mewn ffordd gynaliadwy, mae ynni llanw yn cynnig y potensial i gynhyrchu trydan glân dibynadwy, gan greu swyddi o safon, cryfhau cadwyni cyflenwi Cymru a sicrhau bod mwy o’r gwerth yn aros yn ein cymunedau."
"Ein nod yw sicrhau bod Cymru ar flaen y sector byd-eang hwn sy’n tyfu."

Mae Menter Môn Morlais yn dweud bod y datblygiad – y mwyaf o’i fath yn Ewrop – eisoes yn creu cyfleoedd i fusnesau lleol a phrentisiaid, a’r disgwyl yw y daw mwy wrth i’r prosiect ddatblygu.
Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar botensial ynni’r llanw wrth gynhyrchu trydan adnewyddadwy dibynadwy, helpu i gyflawni’r uchelgais o ran hinsawdd a chryfhau sicrwydd ynni hirdymor yng Nghymru a'r DU.
Ychwanegodd John Idris Jones, cadeirydd Menter Môn Morlais: "Mae’r ymweliad hwn yn un pwysig ac yn dangos y gydnabyddiaeth gynyddol sydd yna o rôl y llanw wrth gynhyrchu trydan, gan greu swyddi o safon a chyfleoedd i bobl leol."
"Fel prosiect sy’n cael ei arwain gan y gymuned, mae Morlais yn ymateb i’r angen am ynni glân, gan helpu i gryfhau’r economi leol a sicrhau bod y budd yn cael ei deimlo yma ar Ynys Môn."
"Mae Morlais yn helpu i roi Cymru a’r DU ar y map yn y sector ynni morol byd-eang. Ond mae angen cefnogaeth barhaus i adeiladu ar y cynnydd hwn a chyrraedd ein potensial llawn."


Y Bermo: cyhuddo dyn o ymosodiad mewn siop
Dau yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ger Trawsfynydd
Apêl Noson Tân Gwyllt – "dangoswch barch"
Agor cwest i farwolaeth Michael Ward
Cipolwg cyntaf ar 'Y Streic Fawr'