Mae dyn 65 oed wedi cael ei gyhuddo o anafu yn dilyn ymosodiad honedig yn Nhrefor.
Cafodd dyn arall anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad yn yr Hen Ysgol tua 6yh nos Wener diwethaf.
Cafodd Steven Parry ei arestio a'i gyhuddo wedyn o glwyfo bwriadol a meddu ar gyllell mewn annedd breifat.
Yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun, cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun 23 Tachwedd.
Mae ail ddyn wedi cael ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau'n parhau.
Mae patrolau heddlu yn parhau yn y pentref er mwyn cynnig sicrwydd, ac mae ditectifs wedi annog y cyhoedd i osgoi dyfalu neu gyhoeddi unrhyw beth ar-lein a allai fod yn niweidiol i unrhyw achos llys posibl yn y dyfodol neu danseilio'r broses cyfiawnder troseddol.
Yn gynharach, dywedodd y Ditectif Sarjant Jones o’r Adran Ymchwilio i Droseddau'r Gorllewin: “Mae ymholiadau i'r digwyddiad yn parhau ac felly bydd presenoldeb heddlu yn parhau yn yr ardal heddiw. Fodd bynnag, hoffem roi sicrwydd i drigolion nad oes risg ehangach i'r cyhoedd."
"Rydym yn ymwybodol o ddyfalu sy'n cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â'r digwyddiad. Byddem yn annog aelodau'r cyhoedd i beidio â dyfalu gan y gall hyn achosi pryder diangen a gall effeithio ar ymchwiliadau parhaus."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad â'r ymosodiad honedig, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan dyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000871650.


Porthladd Rhydd: gwaith i ddechrau ar uned newydd
Efeilliaid caredig yn ennill gwobr maethu
Plant y Nant yn lansio ym Mhenygroes
Tynnu sgaffaldiau oddi ar Bont y Borth
Dolgellau: cyhuddo dyn o anafu