Babi Ceri: "penderfynol o gael atebion" - heddlu

Tuesday, 27 October 2026 at 13:17

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae ditectifs yn parhau i fod yn benderfynol o ddod o hyd i atebion yn dilyn marwolaeth merch fach a ddarganfuwyd ym Mangor.

Mae mis wedi mynd heibio ers i gorff y Babi Ceri gael ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd ar lan y Fenai ger Ffordd Siliwen.

Ond er gwaethaf nifer o apeliadau uniongyrchol gan yr awdurdodau, nid yw ei mam – sydd heb gael ei hadnabod – wedi dod ymlaen.

Yr arwyddion cychwynnol yw gallai fod wedi bod yn y dŵr am hyd at ychydig wythnosau, ond mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i gydweithio hefo arbenigwyr ar sawl prawf arbenigol.

Mae ditectifs yn dweud ei fod yn dilyn pob ymholiad bosibl ac mae swyddogion wedi adolygu cannoedd o oriau o ffilmiau camerâu cylch cyfyng, ymateb i gyflwyniadau gan y cyhoedd a dosbarthu dros 2000 o daflenni i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y ddinas.

Dywedodd Uwcharolygydd Llinos Davies: "'Da ni'n parhau i fod yn benderfynol o gael atebion ar gyfer Babi Ceri."

"Mae swyddogion yn ymchwilio'n ddiflino i'r amgylchiadau sy'n ymwneud hefo'i marwolaeth hi ac yn parhau i apelio ar ei mam, ei thad neu'i theulu i ddod ymlaen."

"Mae hwn wedi bod yn achos torcalonnus i gymuned Bangor a thu hwnt."

"Mae'r help a'r tosturi 'da ni wedi'i dderbyn wedi bod yn ddiwyro wrth i ni barhau i apelio am unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i ddarganfod beth ddigwyddodd i Babi Ceri."

"Mae ein llinell ffôn bwrpasol ar gyfer mam Ceri yn parhau i fod ar gael bob amser i siarad hefo arbenigwr sydd wedi'u hyfforddi i wrando arni hi a'i helpu hi."

Gall mam Ceri ffonio neu anfon neges destun unrhyw bryd ar 07974 241 223.

Os oes gynnoch chi unrhyw bryderon uniongyrchol, cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu Ymgyrch Melex neu drwy'r gwefan arbennig sydd wedi creu mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.

Fel arall, cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu gwasanaeth Ymholiadau a Datrys Pobl gan bwrdd Betsi Cadawaladr ar 03000 851 234 rhwng 10yb a 4yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'