Mae'r heddlu'n apelio am dystion yn dilyn ymosodiad gan grŵp ar ddynes ifanc ym Mhorthmadog.
Digwyddodd ger cwrt blaen o gorsaf danwydd Tesco ar y Stryd Fawr tua 8yh nos Sadwrn diwethaf (21 Mawrth).
Dyweddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "‘Da ni’n apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i’r digwyddiad neu sydd efo fideo o'r rhai gymerodd ran i gysylltu efo’r heddlu."
"Da ni ar ddeall bod nifer o geir yn teithio drwy’r ardal ar y pryd, felly ‘da ni hefyd yn apelio ar ddefnyddwyr y ffordd i sbïo os oes gynno nhw fideo camera cerbyd o’r digwyddiad."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr ymosodiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddefnyddio'r rhif cyferinod 26000227209.


Ffair yn dathlu treftadaeth Ynys Cybi
Tacsi wedi'i ddwyn a'i yrru ar ochr anghywir yr A55
Gyrru car ar ochr anghywir yr A55
Bangor: carcharu siopleidr am ddwyn dillad
Carcharu pedoffil am ymosod ar ferch