Mae afon ger Caernarfon wedi cael ei disgrifio fel un o'r goreuon yn y DU ar gyfer planhigion prin, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae arolwg Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi canfod bod bywyd planhigion yn Afon Gwyrfai yn ffynnu ac mae pob un o'r pum lleoliad a aeswyd yn cefnogi "cymendau iach o blanhigion, gyda gwelyau tanddwr mawr o rywogaethau amrywiol o blanhigion".
Cafwyd hyd i lyriad-y-dŵr arnofiol, sy’n rhywogaeth brin a gwarchodedig o bwysigrwydd rhyngwladol, ym mhob ardal archwilio, ac mae’n bodloni targedau poblogaeth y safle gwarchodedig. Ar hyd un rhan o’r afon, cofnodwyd planhigion yn cynhyrchu hadau.
Anaml y gwelir hyn ym Mhrydain, ac mae’n arwydd cryf o boblogaeth iach a hunangynhaliol.
Casglwyd rhai o’r hadau hyn er mwyn eu cyfrannu at Fanc Hadau’r Mileniwm yng Ngerddi Kew yn Llundain, gan helpu i ddiogelu’r rhywogaeth ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Francesca Sanchez, chynghorydd arbenigol CNC ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau dŵr croyw: “Mae hwn yn ganlyniad cryf. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod Afon Gwyrfai yn dal i fod yn un o’r enghreifftiau gorau yn y DU ar gyfer y math hwn o gymuned o blanhigion."
“Maen nhw’n chwarae rhan hanfodol yn cynnal iechyd yr afon drwy ddarparu cynefin hanfodol i bysgod, infertebratau a mathau eraill o fywyd gwyllt, sy’n helpu i gynnal bioamrywiaeth.
“Maen nhw hefyd yn cyfrannu at wella ansawdd y dŵr drwy amsugno maethynnau, dal gwaddodion a sefydlogi gwelyau’r afon.”
Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar gymunedau o blanhigion dyfrol sy’n nodweddiadol o afonydd glân sy’n brin o faethynnau. Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau fel crafanc-y-frân y dŵr, brigwlydd a myrdd-ddail.
Mae’r afon hefyd yn cynnal amrywiaeth o fwsoglau a phlanhigion dyfrol eraill sy’n bwysig i ecosystem yr afon.
Ond mewn un o leoliadau’r arolwg, roedd arwyddion cynnar o bwysau - cofnododd yr arolygwr lefelau uwch o algâu ffilamentog, a allai fod yn gysylltiedig â lefel uwch o faethynnau yn y dŵr.
Dwyeddod llefarydd ar ran CNC: "Er bod y safle’n dal i gyrraedd ei dargedau ar gyfer cymunedau o blanhigion, mae wedi’i nodi fel un sydd mewn perygl a bydd yn cael ei ymchwilio ymhellach. Mae gan CNC brosiect penodol sydd eisoes yn gweithio i gynnal a gwella ansawdd dŵr yn y Gwyrfai."
Ychwanegodd: "Bydd yr adroddiad yma yn un elfen o werthusiad cyflwr cynhwysfawr o ACA Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn. Mae asesiadau cyflwr yn rhoi dealltwriaeth gyflawn o iechyd ACAau ac yn lliwio gwaith parhaus i warchod ac gwella'r cynefinoedd mwyaf gwerthfawr yng Nghymru."


'Neges mewn Potel' ar gael yng Ngwynedd
Terry Phipps yn ailymuno MônFM
Chwech yn sefyll yn isetholiad Llanrug
Ras Gyfnewid Baton i ymweld ag Môn
Aberffraw: cyhuddo dyn o dinoethi anweddus