Mae Cyngor Môn wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar 'dreth dwristiaeth' bosibl.
Bydd Gwynedd a Sir Conwy yn dilyn yr un peth yn y dyddiau nesaf ar ôl i'r tri awdurdod lleol gyhoeddi cynlluniau i geisio barn ar gyflwyno ardoll ymwelwyr.
Mae'r ymgynghoriad wyth wythnos yn dilyn penderfyniad yr wythnos diwethaf gan y cyngor llawn i gasglu safbwyntiau.
Mae deddfwriaeth yng Nghymru, a gyflwynwyd ym mis Medi 2025, yn rhoi'r dewis i gynghorau gyflwyno ardoll ar gyfer arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr, ond nid yw'n orfodol.
O fis Ebrill 2027, Caerdydd fydd y cyntaf yng Nghymru i godi £1.30 y pen y noson am aros dros nos yn y rhan fwyaf o lety, gan gynnwys gwestai, a 75c mewn meysydd gwersylla a hosteli.
Ond ym Môn, nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynghylch a fydd ardoll ymwelwyr yn cael ei gyflwyno, ac yn ôl penaethiaid y cyngor, byddai unrhyw benderfyniad yn digwyddiad ar ôl ystyried adborth yr ymgynghoriad a'r dystiolaeth ategol yn ofalus.
Os caiff ei fabwysiadu, bydd yr ardoll yn cael ei chyflwyno ar 1 Hydref 2027.
Dywedodd arweinydd Cyngor Môn, Gary Pritchard: "Dyma gyfle i bawb sydd â diddordeb yn nyfodol Ynys Môn i ddweud eu dweud. Rydym yn gwybod fod safbwyntiau cryf ac amrywiol am y mater hwn, ac mae'n bwysig ein bod yn clywed barn cymaint o bobl â phosibl."
"P'un a'ch bod yn rhan o'r sector twristiaeth, yn drigolyn, busnes lleol, yn grŵp ymwelwyr neu gymunedol, bydd eich adborth yn helpu i lunio'r camau nesaf."
"Rwyf eisoes wedi treulio amser yn siarad gyda nifer o fusnesau yn y diwydiant lletygarwch am ardoll ymwelwyr posibl, ac rwyf yn gobeithio y bydd eu safbwyntiau'n cael eu hadlewyrchu yn ystod ein hymgynghoriad."
Mae adroddiad gan y cyngor wedi adnabod a mesur manteision ac anfanteision posibl ardoll ymwelwyr, gan gynnwys:
- Darparu cyllid ychwanegol i gynnal a gwella cyfleusterau ymwelwyr fel llwybrau troed, toiledau a meysydd parcio
- Cefnogi twristiaeth gynaliadwy a helpu i reoli'r pwysau ar gymunedau a'r amgylchedd
- Cyfleoedd i fuddsoddi mewn diwylliant leol, etifeddiaeth a'r iaith Gymraeg
Ac ar y llaw arall:
- Yr effaith bosibl ar fusnesau twristiaeth, yn enwedig darparwyr llai
- Sut fydd ymwelwyr yn ymateb i ffi ychwanegol
- Y pwysigrwydd o sicrhau bod unrhyw gyllid yn dryloyw ac yn cael ei ddefnyddio er budd twristiaeth
Mae'r diwydiant twristiaeth ar Ynys Môn yn cynhyrchu tua £360 miliwn bob blwyddyn ac yn cynnal tua 3,500 o swyddi mewn busnesau sy'n gysylltiedig ag ymwelwyr.
Ond yn ôl y papur ymgynghori, "mae natur y cynnyrch a'i effaith ar yr ynys yn esblygu ac mae angen newid i fodel mwy cynaliadwy ac empathig sy'n sicrhau llwyddiant busnes a gwelliannau economaidd wrth gynnal a gwella rhinweddau arbennig yr ynys".
Dywed y cyngor ei fod yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol twristiaeth ar Ynys Môn i gymryd rhan - boed hynny i gefnogi'r syniad, i'w wrthod neu i ddysgu mwy.
Ychwanegodd Christian Branch, pennaeth economaidd Cyngor Môn: "Mae deall y cyd-destun lleol yn hollbwysig wrth ystyried unrhyw newid all effeithio ar economi a chymunedau'r ynys."
"Bydd yr ymgynghoriad yn ein helpu i gael darlun mwy clir o'r effeithiau posibl, yn enwedig ar gyfer busnesau lleol a phatrymau twristiaeth tymhorol, a sicrhau bod penderfyniadau'r dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u harwain gan fewnwelediad lleol."
Mae'r ymgynghoriad, sy'n rhedeg tan ddydd Llun 13 Gorffennaf, ar gael ar-lein ar wefan Cyngor Ynys Môn, a bydd copïau caled o'r ymgynghoriad, a gwybodaeth gefndirol ychwanegol ar gael mewn llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden lleol, Oriel Môn a swyddfeydd y cyngor sir yn Llangefni.
Mae'r ymgynghoriad wyth wythnos yn gorffen ddydd Llun 13 Gorffennaf.
Bydd Cyngor Gwynedd yn lansio ei ymgynghoriad cyhoeddus ei hun ar dreth ymwelwyr ddydd Mercher.


Newidiadau mawr i amserlenni trên
Talwrn: benthyciad ar gyfer prosiect tai
Urdd 2026: Môn yn codi £380k
Pont y Borth ar gau eto
Cyngor Gwynedd yn ethol cadeirydd newydd