Bydd Gŵyl Cefni yn dychwelyd yn haf 2027, mae trefnwyr wedi cadarnhau.
Bydd yr ŵyl boblogaidd yn cael ei chynnal yng nghanol y dref ddydd Gwener 4 a dydd Sadwrn 5 Mehefin 2027.
Mae pwyllgor yr ŵyl a Menter Môn wedi cymryd seibiant o flwyddyn i ddatblygu'r digwyddiad ymhellach a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Cyhoeddir y rhestr berfformwyr maes o law, ond yn y cyfamser, bydd gig arbennig, Gŵyl Cefni Bach, hefyd yn cael ei chynnal cyn y Nadolig.
Dyweddod Elen Hughes, cyfarwyddwr cymuned Menter Môn: “Rydym wrth ein boddau’n gallu dweud bod Gŵyl Cefni yn ôl. Mae llawer o waith wedi bod yn mynd ymlaen yn y cefndir ers i ni gymryd amser i ddatblygu’r ŵyl, ac mae ‘na deimlad cyffrous iawn o ran gallu rhannu’r cynlluniau hynny gyda phobl dros y misoedd nesaf."
"Mae Gŵyl Cefni wastad wedi bod yn ŵyl sy’n perthyn i’r gymuned, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi parhau i gefnogi’r ŵyl dros y cyfnod hwnnw."
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, busnesau, partneriaid a phobl leol i wneud 2027 yn flwyddyn arbennig iawn i’r ŵyl."

Ers yn 2000, mae Gŵyl Cefni wedi dod yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr Ynys Môn, gyda llu o ddigwyddiadau yn dathlu cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg.
Dathlodd yr ŵyl ei phen-blwydd yn 25 oed y llynedd gydag artistiaid a bandiau gan gynnwys Fleur de Lys, Gwilym, Mared, Morgan Elwy a Cordia.
Darlledwyd yr ŵyl yn fyw ar MônFM, gan ennill Gwobr Aur am y Digwyddiad Byw neu'r Darllediad Allanol yng Ngwobrau Radio Cymunedol.
Dywed y trefnwyr eu bod wedi bod yn brysur yn gweithio yn y cefndir i edrych ar sut gall Gŵyl Cefni ddatblygu a pharhau dros y blynyddoedd nesaf.
Meddai'r llefarydd ar ran y pwyllgor: "Mae’r gwaith hwnnw wedi helpu i osod sylfaen gadarn ar gyfer y bennod nesaf ac yn rhoi hyder y gall yr ŵyl barhau i ffynnu am flynyddoedd i ddod gyda chefnogaeth y gymuned a phartneriaid."
Ychwanegodd: "Mae’r pwyllgor hefyd yn gyffrous I gyhoeddi llawer o enwau gwych sydd wedi eu cadarnhau, byddant yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf!"
Bydd Gŵyl Cefni Bach yn cael ei chynnal yng nghlwb Wellmans ar nos Sadwrn 5 Rhagfyr fel blas ar ŵyl 2027, gyda cherddoriaeth fyw gan Calfari, Huw Aye Rebels a Sbecs.
Mae tocynnau yn £10 ac ar gael ymlaen llaw gan Ticketsource.


Y Bermo: cyhuddo dyn o ymosodiad mewn siop
Dau yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ger Trawsfynydd
Apêl Noson Tân Gwyllt – "dangoswch barch"
Agor cwest i farwolaeth Michael Ward
Cipolwg cyntaf ar 'Y Streic Fawr'