Mae'r heddlu wedi enwi'r merch fach y cafodd ei chorff ei ddarganfod ar lan y môr ym Mangor.
Mae ditectifs yn parhau i chwilio am fam Ceri, y cafodd ei chorff ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd ger Ffordd Siliwen fis diwethaf.
Yr arwyddion cychwynnol yw gallai fod wedi bod yn y dŵr am hyd at ychydig wythnosau, ond mae Heddlu Gogledd Cymru yn aros am ganlyniadau nifer o brofion fel rhan o'u hymchwiliad.
Mae nifer o arbenigwyr ar draws y wlad hefyd yn cymryd rhan wrth i awdurdodau geisio deall beth ddigwyddodd i'r baban a phwy yw ei rhieni.
Dyweddod Uwcharolygydd Llinos Davies: "'Da ni'n parhau i fod yn benderfynol o gael atebion ar gyfer Babi Ceri."
"Mae'r holl ymchwiliadau posibl yn cael eu cyflawni, a 'da ni'n aros am ganlyniadau sawl prawf arbenigol, 'da ni'n gobeithio y gallan nhw roi llwybrau newydd i ni edrych arnyn nhw."
"Dwi'n parhau i apelio ar bobl sy'n mynd a'u cŵn am dro a thrigolion eraill a oedd yn cerdded yn rheolaidd yn ardaloedd Caeau Ashley ym Mangor rhwng 30 Awst a 27 Medi i gysylltu hefo ni."

Bu nifer o apeliadau uniongyrchol i fam Ceri ddod ymlaen, yng nghanol pryderon am ei diogelwch, gan gynnwys sefydlu llinell ffôn uniongyrchol.
Dyweddod Fiona Giraud, cyfarwyddwr bydwreigiaeth a gwasnaethau merched gan Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Efallai nad wyt ti wedi teimlo'n hyderus i ddod ymlaen eto, ond bydda'n ymwybodol bod gynnon ni arbenigwyr yn barod i dy helpu di."
"Waeth beth ydy'r amgylchiadau, cysyllta hefo ni. Os ti'n gweld y neges yma, ffonia neu anfona neges destun at 07974 241223."
"Pan fyddi di'n ffonio, byddi di'n siarad yn uniongyrchol hefo arbenigwr hyfforddedig. Eu gwaith nhw ydy gwrando a helpu."
"Does dim rhaid i ti fod ofn siarad. Mi fyddi di'n cael dy drin hefo tosturi, urddas a pharch."
Mae'r heddlu hefyd yn apelio am unrhyw luniau neu fideos a dynnwyd yn ac o amgylch glannau Afon Menai yn Siliwen, neu yn yr ardal gyfagos, rhwng dydd Mercher 30 Awst a dydd Sul 27 Medi.
Yn ôl ditectifs, gallai unrhyw ddelwedd fod yn berthnasol i hymchwiliad, a bydd yn cael ei adolygu i weld a ydyn nhw o unrhyw werth fel tystiolaeth i'w hymholiadau.
Ychwanegodd Uwchaorlygydd Davies: "Dwi am ddiolch i'r gymuned am eu help wrth i ni barhau hefo'n hapeliadau ni am wybodaeth."
"Er gwaethaf y cyswllt 'da ni wedi'i dderbyn hyd yn hyn, dydan ni ddim wedi gallu adnabod a dod o hyd i fam Ceri eto."
"Gofynnir i unrhyw un sydd wedi bod hefo pryderon am ddynes neu eneth yn ystod y misoedd diwethaf i ddod ymlaen."
"'Da ni ddim yn gofyn i unrhyw un dybio neu gyhuddo neb. Gall rhywbeth sy'n ymddangos yn ddibwys neu sydd hefo esboniad hollol ddiniwed fod yn hanfodol i ddod o hyd i'r gwir ar gyfer Ceri."
Os oes gynnoch chi unrhyw bryderon uniongyrchol, cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu Ymgyrch Melex neu drwy'r gwefan arbennig sydd wedi creu mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.
Fel arall, cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu gwasanaeth Ymholiadau a Datrys Pobl gan bwrdd Betsi Cadawaladr ar 03000 851 234 rhwng 10yb a 4yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.


Caergybi: corff dyn wedi’i ganfod mewn fflat
Carcharu cyn-dditectif am gamddefnyddio cyfrifiaduron
Cyhuddo dyn o ymosodiad yng Nghaergybi
A494: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad
Mwy o gyllid ar gyfer prosiectau diwylliannol