Mae dyn wedi cael ei ganfod yn farw mewn bloc o fflatiau yng Nghaergybi.
Cafodd y corff ei darganfod gan barameddygon mewn cyfeiriad yn Llys Watling ar Ffordd Llundain ychydig ar ôl 2.40yb fore Sadwrn.
Yn ôl yr heddlu, datganwyd bod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle, er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys.
Mae dyn lleol wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae presenoldeb cynyddol o'r heddlu yn yr ardal, ond nid oes risg barhaus i'r cyhoedd.
Mae arbenigwyr fforensig yn y fflatiau, ac mae ymholiadau o ddrws i ddrws yn cael eu cynnal yn yr ardal.
Dywedodd y Prif Ditectif Arolygydd Richard Sidney: "Rydyn ni'n deall y gallai'r digwyddiad hwn achosi pryder yn y gymuned leol, ac rydw i am dawelu meddyliau trigolion y bydd mwy o swyddogion heddlu yn yr ardal heddiw wrth iddyn nhw fynd o ddrws i ddrws a chynnal ymchwiliadau pellach."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Nid ydym mewn sefyllfa i ddarparu rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd, a byddem yn gofyn i’r cyhoedd ymatal rhag dyfalu. Byddwn yn rhannu diweddariadau pellach pan fydd yn briodol gwneud hynny.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad â'r farwolaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu‘r rhif cyfeirnod 26000852942.


Caergybi: arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth
Carcharu cyn-dditectif am gamddefnyddio cyfrifiaduron
Cyhuddo dyn o ymosodiad yng Nghaergybi
A494: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad
Mwy o gyllid ar gyfer prosiectau diwylliannol