Mae cyn-dditectif wedi cael ei garcharu am gael mynediad heb awdurdod at gofnodion cyfrifiadurol yr heddlu.
Cafwyd Emma Gardner, 47 oed o Fae Colwyn, yn euog o ddefnyddio cyfrifiadur er mwyn cael mynediad anawdurdodedig at raglen neu ddata.
Fe’i cafwyd hefyd yn euog o gael mynediad at 13 cofnod digidol a oedd yn gysylltiedig â ffrind heb unrhyw ddiben plismona ar 47 o achlysuron rhwng mis Ionawr a mis Medi 2022.
Mae Gardner, cyn-sarjant a oedd wedi'i leoli yng ngorsafoedd heddlu Caernarfon a Bangor, wedi cael ei wahardd rhag gweithio yn yr heddlu ers hynny.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, cafodd ei dedfrydu i wyth mis o garchar.
Dwyeddod y Dirpwy Brif Gwnstabl, Nigel Harrison: "Roedd ei hymddygiad nid yn unig yn droseddol, ond hefyd ymhell o’r safonau rydym yn eu disgwyl gan ein swyddogion."
"Cafodd ei hatal rhag cyflawni ei dyletswyddau yn ystod yr ymchwiliad, ac yn dilyn ei chollfarn bu’n destun gweithdrefnau camymddwyn."
"Penderfynodd y Prif Gwnstabl y byddai wedi cael ei diswyddo pe na bai wedi ymddiswyddo, ac mae ei henw wedi’i roi ar y rhestr waharddedig fel na all fyth wasanaethu ym maes plismona eto."
"Dylai hi fod wedi gwybod yn well, ac mae ei gweithredoedd wedi tanseilio’r ymddiriedaeth oedd gennym ynddi, yn ogystal ag ymddiriedaeth y cyhoedd."


Caergybi: corff dyn wedi’i ganfod mewn fflat
Cyhuddo dyn o ymosodiad yng Nghaergybi
A494: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad
Mwy o gyllid ar gyfer prosiectau diwylliannol
Marwolaeth ym Mangor: enwi merch fach