Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A494 ger Y Bala.
Cafodd y ffordd ei chau nos Iau yn dilyn gwrthdrawiad a oedd yn cynnwys BMW 240i du a Mitsubishi L200 du tua 7.35yh.
Datganwyd bod gyrrwr y BMW wedi marw yn y fan a'r lle gan y gwasanaethau brys.
Cafodd gyrrwr y Mitsubishi ei gludo mewn ambiwlans i'r Ysbyty Maelor yn Wrecsam gydag anafiadau man.
Roedd y ffordd ar gau rhwng Llanuwchllyn a Dolgellau am sawl awr, ond mae wedi ailagor ers hynny.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar dystion i ddod ymlaen.
Dyweddod y Rhingyll Ditectif Liam Morris o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: "Mae ein meddyliau gyda theulu’r dyn yn y cyfnod anodd hwn, a gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad trychinebus hwn."
"Rydym yn gweithio i sefydlu’r amgylchiadau o amgylch y gwrthdrawiad, ac rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliad i ddod ymlaen."
"Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un a welodd y BMW yn cael ei yrru yn y cyfnod yn arwain at y gwrthdrawiad."
"Os oeddech yn teithio ar hyd yr A494 ger Llanuwchllyn neithiwr ac wedi gweld y cerbyd, neu os oes gennych ddeunydd fideo o gamera car a allai helpu gyda’n hymchwiliad, cysylltwch â ni."
"Gallai hyd yn oed gwybodaeth sy’n ymddangos yn ddibwys fod yn bwysig i’n hymchwiliad."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000849235.


Caergybi: corff dyn wedi’i ganfod mewn fflat
Carcharu cyn-dditectif am gamddefnyddio cyfrifiaduron
Cyhuddo dyn o ymosodiad yng Nghaergybi
Mwy o gyllid ar gyfer prosiectau diwylliannol
Marwolaeth ym Mangor: enwi merch fach