Mae prosiectau a lleoliadau diwylliannol ar draws Ynys Môn a Gwynedd yn cael hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Bydd prosiect Trysor ar Ynys Môn yn derbyn cyfran o £550,000 i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd gydag archeoleg a chynhanes Cymru drwy dehongli ac allgymorth dwyieithog.
Bydd canolfan Storiel ym Mangor hefyd yn derbyn mwy o gyllid, ynghyd â rhaglen Culture Gwynedd, sy'n dod ag amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn y sir at ei gilydd.
Mae grantiau hefyd wedi’u sicrhau ar gyfer cynllun 'Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell ’ yng Ngwynedd, ac ar gyfer datblygiad parhaus LMS Cymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, yn caniatáu i brosiectau barhau â'u gweithgareddau tan ddiwedd mis Mawrth 2027, gan adeiladu ar waith sydd eisoes yn digwydd.
Dywedodd Heledd Fychan, y Gweinidog Diwylliant: "Mae amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn ganolog i'n cymunedau, gan gysylltu pobl â'u hanes, â'u diwylliant ac â'i gilydd."
"Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i brosiectau ym mhob cwr o Gymru adeiladu ar y cynnydd gwych y maen nhw wedi'i wneud yn barod, gan gyrraedd mwy o bobl, mewn mwy o leoedd, gyda'r straeon sy'n bwysig iddyn nhw."
"Hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau sydd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu'r prosiectau hyn. Mae eu hymrwymiad parhaus at ennyn diddordeb cymunedau, diogelu ein treftadaeth ac ehangu mynediad at ddiwylliant yn gwneud gwahaniaeth go iawn, ac rwy'n falch ein bod ni'n gallu eu cefnogi nhw i estyn y gwaith hanfodol hwn tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf."


Caergybi: arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth
Caergybi: corff dyn wedi’i ganfod mewn fflat
Carcharu cyn-dditectif am gamddefnyddio cyfrifiaduron
Cyhuddo dyn o ymosodiad yng Nghaergybi
A494: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad