Mae dyn o Landdona wedi cael ei wahardd rhag chwarae pêl-droed am bum mlynedd am ymosod ar wrthwynebydd.
Plediodd Thomas Taylor yn euog i achosi niwed corfforol gwirioneddol i Danny Brookwell tra roedd yn chwarae i Fae Trearddur yn ystod gêm Gynghrair Ardal ym Mhorthmadog ym mis Ionawr.
Ym mis Mai, fe gafodd ddedfryd o garchar a gorchmynnwyd iddo dalu £439 mewn iawndal a chostau.
Cafodd Taylor hefyd ei ryddhau gan CPD Bae Trearddur ar ôl y digwyddiad a chafodd ei wahardd o bob gweithgaredd sy'n gysylltiedig â phêl-droed gan CBDC am gyfnod amhenodol.
Mae panel disgyblu yng nghorff llywodraethu pêl-droed Cymru wedi penderfynu bod cyhuddiad o ymddygiad treisgar yn erbyn y cyn-amddiffynwr wedi'i brofi.
Dwyeddod llefarydd ar ran CBDC: "O ganlyniad, mae Thomas Taylor yn destun gwaharddiad o bob gweithgaredd sy'n gysylltiedig â phêl-droed heb unrhyw adolygiad i'w ystyried o dan gyfnod o bum mlynedd. Mae'r cyfnod o 5 mlynedd yn dechrau ar 22 Ionawr 2026."
Rhaid i Taylor hefyd dalu dirwy a chostau, ond gall apelio yn erbyn y penderfyniad cyn 5pm brynhawn Gwener (12 Mehefin).
Yn Llys y Goron Caernarfon ar 12 Mai, cafodd Taylor ddedfryd o 24 wythnos o garchar, wedi'i gohirio am flwyddyn.


Marwolaeth Caergybi: rhyddhau dyn ar fechnïaeth
Apêl yr heddlu ar ôl lladradau Calan Gaeaf
Foden: cyngor yn 'hyderus' bod plant yn fwy diogel
Pont y Borth: mwy o waith cynnal a chadw
Caergybi: arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth