Mae ffigurau newydd yn awgrymu gostyngiad mawr yn nifer y bobl Ifanc sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ym Môn.
Yn ôl Cyngor Ynys Môn, dim ond 0.6% o bobl ifanc yn y categori NEET ('Not in Education, Employment or Training') ar ôl gadael yr ysgol yn 2025, o'i gymharu ag 1.9% yn 2024-25 ac 4% yn 2023-24.
Mae'r ffigyrau wedi gyhoeddwyd fel rhan o gerdyn sgorio perfformiad ar gyfer chwarter 4 y llynedd.
Mae'r cyngor yn dweud bod dulliau targedu wedi cyfrannu at y gwelliant, gan gynnwys ymyrraeth gynnar ac adnabod pobl ifanc sydd mewn pergyl, gweithio mewn partneriaeth gryfach gydag ysgolion a gwasanaethau eraill a chymorth personol.
Dywedodd Carys Hughes, cydlynydd ymgysylltu a chynnydd: "Mae'r gwelliant yr ydym ni wedi'i weld yn ein ffigurau NEET yn dangos y gwahaniaeth cadarnhaol y gall ymyrraeth gynnar, gweithio mewn partneriaeth a chymorth personol ei gael wrth helpu i greu dyfodol cadarnhaol a chynaliadwy i bobl ifanc."
"Bydd y cyngor a'i bartneriaid yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy gryfhau ei ddulliau ataliol a chynyddu'r cyfleoedd i bobl ifanc ledled Ynys Môn."
Derbyniodd un person ifanc, a oedd heb fod mewn addysg ers Blwyddyn 10 yn dilyn cyfnod heriol iawn yn bersonol, gefnogaeth gan dîm Ymgysylltu ag Ieuenctid y cyngor sir.
Drwy weithio ochr yn ochr â phartneriaid, fe wnaeth y tîm helpu'r unigolyn i ddod o hyd i lety â chymorth, gan sicrhau mwy o sefydlogrwydd i'r person ifanc a chyfle i ail-fagu hyder.
Erbyn hyn mae'r person ifanc wedi cofrestru ar y cwrs Twf Swyddi Cymru+ yn ddydiol ac maen nhw'n ystyried dod yn fentor cyfoedion.
Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, sy'n dal y portffolio addysg: "Mae'r ffigurau hyn yn galonogol iawn ac yn dangos beth sy'n bosib pan mae ysgolion, y Cyngor a phartneriaid yn cydweithio i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn ganolog i bopeth yr ydym ni'n ei wneud."
"Mae sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc drwy eu cefnogi yn flaenoriaeth i'r cyngor."
"Drwy ddarparu'r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir, gallwn eu helpu i fagu hyder, datblygu sgiliau a chreu llwybrau i addysg bellach, hyfforddiant a chyflogaeth gan sicrhau bod ein pobl ifanc yn barod ar gyfer heddiw ac yfory."


Caiaciwr ar goll: darganfod corff ail ddyn
Cynyddu patrolau heddlu yn Llangefni
Gwair wedi'i ddwyn o fferm yn Llanddona
Darganfod corff wrth chwilio am dau ddyn ar goll
Tân glaswellt ym Mynydd Bangor