Mae tair canolfan ddiwylliannol yn Ynys Môn a Gwynedd wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd Amgueddfa Forwrol Caergybi, Llyfrgell Caernarfon ac Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy yn derbyn cyfran o £5.2 miliwn i wella mynediad, moderneiddio cyfleusterau ac ariannu casgliadau.
Yng Nghaergybi, bydd cyllid yn cael ei wario ar osod offer newydd - gan gynnwys silffoedd arddangos, systemau diogelwch a gwresogi - i amddiffyn arteffactau hanesyddol pwysig, ynghyd ag atgyweiriadau i'r adeilad a mentrau addysgol newydd.
Bydd £150,000 yn mynd tuag at warchod Highgate, cartref plentyndod cyn-Brif Weinidog y DU, David Lloyd George, sydd i fod i ailagor i'r cyhoedd y gwanwyn nesaf.
Mae arian hefyd wedi'i neilltuo i wella profiad ymwelwyr yn Amgueddfa Lloyd George a diogelu a gwarchod ei chasgliadau.
Mae Llyfrgell Caernarfon yn cael £500,000 i foderneiddio ei chyfleusterau, gan gynnwys mynedfa newydd, ardal awyr agored ac ardal bwrpasol i blant, ynghyd â chanolfan gymunedol a mwy o beiriannau hunanwasanaeth.
Bydd y prosiect hefyd gweld gwelliannau ffisegol i'r adeilad fydd yn cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol drwy dorri allyriadau carbon a chostau gweithredu.
Dyweddod y Cynghroydd Medwyn Hughes, aelod y cabinet Cyngor Gwynedd dros economi: "Rwy'n croesawu'n fawr y buddsoddiad diwylliannol hwn gan Lywodraeth Cymru i'r ddau leoliad."
"Mae'r cynlluniau'n gyffrous, a heb os, bydd y cyllid hwn yn sicrhau fod diwylliant a hanes o fewn gafael pobl leol ac ymwelwyr am flynyddoedd i ddod. Edrychaf ymlaen at weld y gwelliannau wedi'u cwblhau."
Ychwanegodd y Gweinidog gweinidog Diwylliant, Heledd Fychan: "Mae'r buddsoddiad hwn i'w groesawu."
"Mae Amgueddfa Lloyd George yn adrodd hanes un o ffigyrau arwyddocaol Cymru yn hanes gwleidyddol Prydain, a bydd y cyllid hwn yn helpu i ddiogelu'r adnodd yma ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
"Yn y cyfamser, bydd trawsnewid Llyfrgell Caernarfon yn creu gofod modern, hygyrch yng nghanol y gymuned, o fynedfa newydd groesawgar i ardaloedd pwrpasol i blant a phobl ifanc."
"Mae buddsoddiad parhaus yn ein hamgueddfeydd a'n llyfrgelloedd yn hanfodol i greu mannau bywiog sy'n gwasanaethu pobl heddiw ac am flynyddoedd i ddod."


Gyrru car ar ochr anghywir yr A55
Bangor: carcharu siopleidr am ddwyn dillad
Carcharu pedoffil am ymosod ar ferch
Perchnogion newydd i gwmni MAD
Llongyfarchiadau i fyfyrwyr TGAU