Mae corff dyn 74 oed, a aeth ar goll yn ardal Eryri, wedi cael ei ddarganfod.
Bu chwiliadau helaeth dros y penwythnos am Gregor, a ddiflannodd ar ôl parcio ei gar yn Hostel Mynydd Eryri ger Bethesda fore Iau.
Cafodd corff ei ddarganfod ar fynydd Carnedd Y Filiast toc cyn 4yp prynhawn dydd Llun, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.
Nid yw'r heddlu yn credu fod unrhyw amgylchiadau amheus ynghylch ei farwolaeth ac mae crwner Gogledd Orllewin Cymru wedi cael gwybod.
Dyweddod y Prif Arolygydd Stephen Pawson: "Mae fy nghydymdeimlad dwysaf yn parhau gyda theulu Gregor yn ystod yr amser anodd hwn."
"Diolch i asiantaethau partner, gwirfoddolwyr ac aelodau’r cyhoedd a gynorthwyodd yn ein chwiliadau dros y penwythnos a heddiw."


Porthmadog: carchar i leidr ar ôl dwyn copr
Bangor: ymchwiliad i digwyddiadau mewn safle bws
Rhybudd yn dilyn lladradau byrnau gwair
Doreen Morris: rhyddhau pedwar dan ymchwiliad
Prif Weinidog yn cofio ei fam