Comisiynydd yr Heddlu yn cynnal cymorthfeydd ym Menllech

Wednesday, 9 September 2026 15:11

By Ystafell Newyddion MônFM

CHTGC

Mae trigolion Ynys Môn yn cael eu gwahodd i rannu eu pryderon gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ym Menllech.

Bydd Andy Dunbobbin yn cynnal cymhorthfa gynghori yn Neuadd Gymunedol a Chyn-filwyr Benllech ar ddydd Mercher 23 Medi rhwng 1-3yp.

Mi fydd pawb sy'n bresennol yn cael 20 munud er mwyn siarad yn bersonol, a fydd yng nghwmni swyddogion a chynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru, i drafod pryderon plismona a throseddau lleol yn eu cymunedau.

Dywed y Comisiynydd y bydd y cymorthfeydd yn helpu i "bontio'r bwlch" rhwng y cyhoedd a'r heddlu.

Dywedodd Mr Dunbobbin, cyn-gynghorydd Llafur yn Sir y Fflint a gafodd ei ail-ethol yn gomisiynydd ddwy flynedd yn ôl: "Dwi'n awyddus i ymgysylltu â phobl Benllech a’r cyffiniau yn fy nghymhorthfa sydd ar y gorwel, er mwyn clywed eu barn nhw ynglŷn â phlismona."

"Mae'r cymorthfeydd cyhoeddus mae fy swyddfa i’n eu cynnal efo’r nod o roi cyfle i breswylwyr Gogledd Cymru gael eu clywed a chael gwrandawiad, sy'n caniatáu pontio'r bwlch rhwng plismona a'r cyhoedd."

"Dros y blynyddoedd diweddar o gynnal y cymorthfeydd hyn, dwi wedi cael clywed ystod o safbwyntiau ynglŷn â phryderon lleol, mawr neu fach."

"O ganlyniad, dwi wedi helpu ymdrin â’r rhain a chynnig tawelwch meddwl i gymunedau. Dyma pam dwi'n annog pobl Benllech i archebu lle a rhannu eu barn."

"Fel CHTh Gogledd Cymru, mae gen i bedair prif ddyletswydd, sef gosod y blaenoriaethau ar gyfer plismona yng Ngogledd Cymru; penderfynu ar y gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru; gwrando ac ymateb i farn y cyhoedd ynglŷn â phlismona; a dal y Prif Gwnstabl yn atebol."

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ac i archebu sesiwn gyda'r Comisiynydd, cysylltwch ag opcc@northwales.police.uk neu 01492 805 486.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Zowie a Dai

    4:00pm - 6:00pm

    Tiwns gwych, digon o chwerthin ac ambell beth annisgwyl...

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'