Mae dyn wedi cael ei garcharu am ymosod yn rhywiol ar ferch 13 oed ym Mangor.
Plediodd Terrance Lloyd yn euog yn dilyn ymosodiad yn nhŷ’r dioddefwr yn y ddinas.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, dilynodd Lloyd y ferch 13 oed i mewn i'w chartref a'i tharo ar ei phen-ôl.
Er i'r ferch ddweud wrtho am stopio, gofynnodd am ei rhif ffôn hyd yn oed ar ôl iddi ddweud wrtho beth oedd ei hoed.
Yn llys ynadon Llandudno ddydd Gwener, cafodd Lloyd ei garchau am 44 wythnos. Rhaid iddo hefyd gofrestru gyda’r heddlu am gyfnod o saith mlynedd.
Dywedodd PC Amie, y swyddog ymchwilio o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd y dioddefwr yn yr achos hwn yn hynod o ddewr yn riportio'r hyn a ddigwyddodd iddi hi."
“Mae ei dewrder wedi arwain at euogfarnu Lloyd."
"Rydym wedi ymrwymo i erlyn trais yn erbyn merched a genethod a byddwn yn ymchwilio i unrhyw adroddiad o drais dan ni'n derbyn."
"Buaswn i'n annog unrhyw un sy'n dioddef trais i ddod ymlaen atom, mi fyddwn i'n gwrando, ac mi fyddwn ni'n eich cefnogi chi."


Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir
Carcharu dyn wedi ymosodiad rhywiol ar ferch
A55: cyhuddo dyn ar ôl gyrru y ffordd anghywir
Ffair yn dathlu treftadaeth Ynys Cybi