Mae dyn 63 oed o Gaergybi wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiadau o ddelio cyffuriau.
Cafodd John 'Jacky' Welsh ei arestio ar amheuaeth o feddu cyffur Dosbarth A yn y dref brynhawn dydd Mercher.
Cynuddwyd Welsh, o Ffordd Kingsland, o chwe trosedd, gan gynnwys dau gyhuddiad o feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi cyffur Dosbarth A a bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant.
Yn Llys Ynadon Llandudno bore Iau, cafodd ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos o flaen Llys y Goron Caernarfon ar ddydd Gwener 10 Gorffennaf.


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir