Mae tri o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad llosgi bwriadol ym Menllech.
Cafodd y gwasanethau brys eu galw i eddo ar ystâd Tyddyn Fadog tua 11.30yh nos Sul, yn dilyn adroddiadau o gerbyd wedi’i roi ar dân yn fwriadol ar ddreif.
Mi ymledodd y tân i’r tŷ, gan achosi difrod.
Cafodd tri o bobl eu holi ar amheuaeth o losgi bwriadol efo’r bwriad i beryglu bywyd, ond ers hynny, maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth efo amodau wrth i ymholiadau barhau.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, cafodd dau griw eu galw i'r lleoliad a derbyniwyd y neges stop tua 2.10yp brynhawn Llun.
Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "‘Da ni’n apelio ar unrhyw un wnaeth weld y digwyddiad, neu sydd efo fideo, gan gynnwys fideo camera cerbyd o'r ardal yn ystod nos Sul i gysylltu efo ni."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad â'r tân, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, gan ddenyddio'r rhif cyfeirnod 26000732186.


Porthmadog: carchar i leidr ar ôl dwyn copr
Bangor: ymchwiliad i digwyddiadau mewn safle bws
Rhybudd yn dilyn lladradau byrnau gwair
Doreen Morris: rhyddhau pedwar dan ymchwiliad
Prif Weinidog yn cofio ei fam