Mae dyn 58 oed, a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ger Y Bala, wedi cael ei enwi.
Roedd Chris Johnson o'r Rhyl yn gyrru car BMW du pan wrthdarodd â thryc codi Mitsubishi du ar yr A494 ger Llanuwchllyn nos Iau 15 Hydref.
Datganwyd ei fod wedi marw yn y fan a'r lle gan y gwasanaethau brys.
Cafodd y gyrrwr y BMW ei gludio i'r Ysbyty Maelor yn Wrecsam gydag anafiadau difrifol.
Mae Mr Johnson wedi cael ei ddisgrifio fel "dyn teulu arbennig, yn ddoniol ac yn ofalgar, a bydd colled fawr ar ei ôl i bawb a oedd yn ei adnabod".
Mewn datagniad drwy'r heddlu, dywedodd y teulu: "Roedd Chris wrth ei fodd bod allan hefo'i ffrindiau ar ei feic modur yn teithio ffyrdd hardd Gogledd Cymru, neu dreulio amser yn y gampfa."
"Roedd bob amser wedi ymrwymo i helpu unrhyw un gan gynnwys ei deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr pan oedd angen."
"Roedd Chris yn ŵr, tad, mab, taid, brawd, ewythr a chefnder ac yn ganolbwynt ein teulu ni. Roedd ganddo’r gallu i wneud i bobl wenu hyd yn oed yn ystod yr adegau anoddaf, ac roedd yn gweld y da mewn cymaint o bethau mewn bywyd."
"Ni all geiriau fynegi'r effaith a gafodd o ar gymaint o bobl. Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd ar hyn o bryd i'w galluogi i alaru am golli Chris."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 7:35pm ar 15 Hydref, a gaeodd y ffordd am sawl awr.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000849235.


Gweinidog Ynni yn ymweld â phrosiect Morlais
Babi Ceri: "penderfynol o gael atebion" - heddlu
Cyllid ar gyfer twristiaeth beicio cyn Le Tour
Cyhuddo dyn o anafu yn Nhrefor
Pont y Borth: mwy o waith cynnal a chadw