Ymosodiad ar mamog yn Ninas Dinlle

Wednesday, 9 September 2026 16:18

By Ystafell Newyddion MônFM

Rhybudd: Gall rhai o'r delweddau isod beri gofid.

Mae'r heddlu'n ymchwilio i ymosodiad amheus gan gi ar mamog ger Maes Awyr Caernarfon.

Cafodd y famog frith anafiadau i'w hochr a'r choesau ôl yn dilyn digwyddiad mewn cae yn Ninas Dinlle ar nos Sul 30 Awst.

Ers hynny, mae'r mamogiaid eraill wedi cael eu symud o'r caeau, sy'n ymestyn ar hyd y traeth.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog y cyhoedd i gysylltu â nhw cyn gynted â phosibl os bydd ci yn dianc mewn ardal wledig, er mwyn iddynt allu rhoi gwybod i ffermwyr a thirfeddianwyr lleol.

Dyweddod SCCH Rhys Evans o'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad: "Roedd ei chroen a’r gwlân eu rhwygo oddi ar ei chorff, a byddai hynny wedi gofyn am gryn dipyn o rym, sy’n awgrymu mai ci mawr oedd yn gyfrifol fwy na thebyg."

Ychwanegodd: "Rydym unwaith eto yn annog perchnogion cŵn i gadw eu cŵn ar dennyn wrth gerdded mewn caeau lle mae da byw yn bresennol, er mwyn peidio ag achosi gofid nac anaf i’r anifeiliaid."

"Gofynnir i unrhyw un a oedd yn cerdded ci drwy’r caeau ar y pryd ac sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr ymosodiad, cysylltwch â SCCH Evans ar 101 neu drwy'r sgwrs fyw ar wefan Heddlu Gogledd Cymru, gan ddefnyddio'r rhif 26000720376.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Zowie Williams

    4:00pm - 7:00pm

    Zowie sydd yma tan 7 ar MônFM. Digon o diwns a digon o hwyl!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'