Bydd sgaffaldiau'n cael eu tynnu oddi ar Bont y Borth wythnos nesaf, a fydd yn arwain at gau lonydd.
Yn ôl Traffig Cymru, mae archwiliadau wedi'u cwblhau ar gyfrwyau tir Gorllewinol Ynys Môn fel rhan o ail gam y gwaith cynnal a chadw.
Er mwyn tynnu'r sgaffaldiau, bydd y lôn orllewinol y bont ar gau eto bob dydd rhwng 9yb a 3yp o ddydd Llun 23 tan ddydd Gwener 27 Tachwedd, a bydd goleuadau traffig dros dro yn rheoli llif y traffig.
Mae'r lôn orllewinol hefyd wedi bod ar gau dros y tair wythnos ddiwethaf fel rhan o ail gam y gwaith arfaethedig, gan gynnwys clirio a glanhau berynnau tŵr yr ochr orllewinol; ac archwiliadau pellach o echelau'r tyrau sy'n cario'r cadwyni dros y bont.
Dyweddod llefarydd ar ran Traffig Cymru: "Fel bob amser, gwneir pob ymdrech i ailagor y lôn orllewinol cyn gynted â phosibl ac unwaith y bydd yn ddiogel gwneud hynny ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau."
Mae disgwyl i'r gwaith cynnal a chadw ehangach gael ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2027.


Tŷ Croes: darganfod dyfais 'amheus' mewn tŷ
Pennaeth Betsi yn tynnu nôl o swydd newydd
Dynes yn osgoi carchar am smyglo cyffuriau
Cwblhau gwaith i amddiffyn Hirael rhag llifogydd
Caernarfon: cyhuddo dyn ar ôl cyrch cyffuriau