Mae dyn 58 oed wedi ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o anafu dyn arall yn Nolgellau.
Cafodd yr gwasnaethau brys eu galw i gyfeiriad yn Fron Heulog Cottages ar Stryd Meyrick toc cyn 8yh nos Sul, yn dilyn adroddiad fod dyn wedi dioddef anafiadau difrifol.
Daethpwyd o hyd i Gary Williams ger canol y dref ac fe’i arestiwyd mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Mae wedi cael ei gyhuddo o anafu a meddu ar gyllell mewn lle cyhoeddus.
Yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth, cafodd Williams ei gadw yn y ddalfa am fis, a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun 21 Rhagfyr.
Mae ditectifs yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan dyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000936960.


Tynnu sgaffaldiau oddi ar Bont y Borth
Cwpan Cymru: Caergybi yn ymweld â Phenybont
Gweinidog yn agor ysgol newydd ym Mangor
Cwpan Cymru: Caergybi a Chaernarfon i'r pedwerydd rownd
Llyfrgell Caernarfon yn symud dros dro