Bydd Hotspur Caergybi yn ymweld â Phenybont yn pedwerydd rownd Cwpan Cymru fis nesaf.
Mae'r clwb o Gynghrair Cymru North wedi cyrraedd y 16 olaf yng nghystadleuaeth y tymor hwn, yn dilyn buddugoliaeth o 5-0 yn erbyn Blaen-y-Maes ddydd Sadwrn, gyda phedwar gôl gan Cory Williams.
Yn dilyn tynnu ar raglen Heno ar S4C nos Lun, mae tîm Darren Garmey yn wynebu taith hir i'r de i herio'r clwb o Uwch Gynghrair Cymru, sydd yn y trydydd safle yn y tabl ar hyn o bryd.
Enillodd Penybont o 6-0 yn erbyn Cardiff Draconians yn y drydedd rownd nos Wener diwethaf.

Bydd Caernarfon yn parhau â'u hymdrech i amddiffyn y tlws gyda gêm gartref yn erbyn clwb Cymru Premier arall, Cambrian United.
Enillodd tîm Richard Davies 4-0 yn erbyn Holywell nos Wener, tra enillodd Cambrian 1-0 yn erbyn Bangor 1876 ar nos Sul o flaen camerâu Sgorio.
Cynhelir y gemau rhwng dydd Gwener 11eg a dydd Sul 13eg o Ragfyr.
Pedwerydd rownd Cwpan Cymru JD
Y Drenewydd v Llangennech
Caernarfon v Cambrian United
Bae Colwyn v Caerau Ely
Llandudno v Rockspur
Y Barri v Cei Connah
Hwllffordd v Y Seintiau Newydd
Penybont v Hostpur Caergybi
Met Caerdydd v Trefelin


Cwpan Cymru: Caergybi a Chaernarfon i'r pedwerydd rownd
Connor yn ennill gwobr Chwaraewr y Mis
Ymddeol crys rygbi i gofio Jack