Mae'n annhebygol y bydd mamog fynydd Cymreig yn goroesi ymosodiad ger y meini hirion ym Mhenrhos Feilw, yn ôl yr heddlu.
Mae swyddogion troseddau gwledig yn ymchwilio i ddigwyddiad yn y caeau ger Plas Road rhwng 2yp a 5yp prynhawn dydd Iau diwethaf (8 Hydref).
Mae'r mamog wedi dioddef marciau brathu ar ei chwarter ôl de, ac o ganlyniad mae wedi colli llawer iawn o waed.
Bu nifer o achosion honedig o gŵn yn ymosod ar ddefaid yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys yn ardaloedd Marian-glas, Bodorgan a Llangristiolus.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn cerdded ar hyd Plas Road, neu a welodd gi yn ymosod ar ddefaid, i ddod ymlaen.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â'r Uned Troseddau Gwledig ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan nodi'r rhif cyfeiriod 26000831113.


Carcharu dyn ar ôl dod o hyd i gocên mewn car
Ymchwiliadau’n parhau yn dilyn marwolaeth baban
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Ailddechrau hediadau Hawk yn dilyn damwain hyfforddi