Bydd nifer o ffyrdd ar gau yn ystod Ffair Borth 2026 ym Mhorthaethwy.
Cynhelir digwyddiad eleni ddydd Sadwrn 24 Hydref, gyda Ffordd Telford, Stryd y Bont, Ffordd y Ffair a Stryd Y Paced yn cau i draffig o 2yp ddydd Gwener 23 Hydref tan 7yb ddydd Sadwrn 25 Hydref.
Bydd gwyriadau yn weithredol a bydd arwyddion yn cael eu codi ar gyfer y rhain.
Bydd meysydd parcio Ffordd y Ffair a Llys Menai yn cael eu defnyddio gan y ffair o hanner rnos ar fore Gwener tan 7yb bore Sul.
Gellir parcio ym meysydd parcio Bulkley a Choed Cyrnol fydd ar agor fel yr arfer, yn ogystal â maes parcio Waun, sy'n cael ei redeg yn annibynnol ar y cyngor.
Bydd safle bws Rhyd Menai, Ffordd Caergybi ar ddefnydd i bob gwasanaeth ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Bydd cyfyngiadau Dim parcio Dim Llwytho / Dadlwytho yn weithredol yng Nghil Bedlam, y Stryd Fawr a rhannau o Ffordd Cadnant o ddydd Gwener tan fore dydd Sul.
Disgwylir i Bont y Borth aros ar agor, gyda'r cyfyngiadau pwysau yn eu lle oherwydd gwaith cynnal a chadw parhaus.
Dyweddod llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Mae'r ffair stryd draddodiadol hon wedi bod yn cael ei mwynhau ers cenedlaethau. Dewch i fwynhau'r reidiau, y stondinau ac awyrgylch y ffair."
"Oherwydd bod y ffair yn cael ei chynnal ar y stryd, mae'n anorfod y bydd yn amharu rhywfaint ar y dref. Mae'r trefniadau isod wedi cael eu sefydlu er mwyn lleihau i'r eithaf unrhyw aflonyddwch a sicrhau y gall pawb fwynhau profiad diogel."


Carcharu dyn ar ôl dod o hyd i gocên mewn car
Ymosodiad ar famog ym Mhenrhos Feilw
Ymchwiliadau’n parhau yn dilyn marwolaeth baban
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Ailddechrau hediadau Hawk yn dilyn damwain hyfforddi