Mae dyn wedi cael eu garcharu ar ôl darganfod gwerth £30,000 o gocên yn ei gar ar yr A55.
Cafodd Lee Hope, 38 oed, o Huyton, Glannau Mersi, yn arestio ger Bangor ym mis Awst.
Mi dderbyniodd yr heddlu wybodaeth bod cerbyd yn teithio o Lannau Mers tuag ag Ogledd Cymru efo'r bwriad o ddod â chyffuriau i’r ardal.
Mi stopiodd swyddogion y car ac arestio Hope, a oedd yn gyrru'r car Kia. Mi ganfuwyd llawer iawn o gocên yng nghist y car, yr amcangyfrifir ei fod werth hyd at £30,000 ar y stryd.
Plediodd Hope yn euog i feddiant efo’r bwriad i gyflenwi cocên.
Ym Llys y Goron yr Wyddgrug, cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a chwe mis.
Dywedodd Cwnstabl Scott Jones o Heddlu Gogledd Cymru: “Mi wnawn ni barhau erlid y bobl sy’n ceisio dod â chyffuriau anghyfreithlon i Ogledd Cymru’n ddi-baid. Mi wnawn ni gymryd camau ar unrhyw wybodaeth ‘da ni’n ei chael gan y gymuned."
"Mae troseddwyr sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau’n achosi niwed trychinebus i bobl fregus er eu helw ariannol eu hunain."
"Dwi’n parhau annog unrhyw un efo gwybodaeth ynglŷn â chyffuriau i gysylltu efo’r heddlu neu adrodd yn ddienw i Crimestoppers ar 0800 555 111."


Marwolaeth ym Mangor: enwi merch fach
Atafaelu asedau gwerthwr cyffuriau o Rachub
Ymosodiad ar famog ym Mhenrhos Feilw
Ymchwiliadau’n parhau yn dilyn marwolaeth baban
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu