Ailddechrau hediadau Hawk yn dilyn damwain hyfforddi

Friday, 9 October 2026 13:36

By Ystafell Newyddion MônFM

Awyrlu Brenhinol

Mae awyrennau jet Hawk T2 wedi ailddechrau hedfan yn dilyn damwain hyfforddi ger RAF Y Fali fis diwethaf.

Cafodd dau beilot eu cludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau ar ôl dianc o jet Hawk T2, a chwalodd yn ardal Peniscarnog ddydd Mercher 23 Medi.

Mae'r ddau yn gwella gartref ac yn debygol o wella'n llwyr.

Cafodd awyrennau jet Hawk T1 a T2 eu gwahardd rhag hedfan dros dro, ond mewn datganiad, dywedodd yr Awyrlu Brenhinol fod awyrennau jet T2 yn ailddechrau gweithrediadau brynhawn Iau.yn dilyn "adolygiad trylwyr o’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd a gweithgaredd sicrhau diogelwch priodol."

Mae ymchwiliad i'r ddamwain yn parhau.

Dyweddod llefarydd ar ran RAF Y Fali: “Mae’r penderfyniad wedi’i wneud ar y lefel uchaf, ar ôl craffu helaeth, bod y rheolaethau diogelwch a’r mesurau sicrhau angenrheidiol ar waith i gefnogi dychwelyd i hedfan sydd wedi ei fesur a'i reoli."

“Mae diogelwch criwiau awyr, personél a chymunedau lleol yn parhau i fod yn hollbwysig, a bydd yr ymchwiliad i ddigwyddiad y mis diwethaf yn parhau ochr yn ochr â phrosesau hedfan a sicrhau diogelwch arferol.”

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'