Mae cortyn diogelwch wedi cael ei godi yn dilyn darganfod dyfais amheus mewn ty yn Nhy-croes, ger Rhosneigr.
Cafodd swyddogion arbenigol mewn gwaredu bomiau eu galw i gyfeiriad ar Garden Terrace brynhawn Gwener.
Cafodd eiddo cyfagos eu gwacáu fel rhagofal, ond yn dilyn asesiad, datganwyd nad oedd y ddyfais yn peri risg i'r cyhoedd, a chafodd ei symud o'r fan a'r lle.
Arhosodd yr heddlu yn yr ardal i roi sicrwydd nes i'r cordyn gael ei dynnu tua 5.30yp.
Datganwyd bod y digwyddiad wedi dod i ben.
Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Hoffem ddiolch i aelodau o'r cyhoedd am eu hamynedd a'u cydweithrediad."


Pennaeth Betsi yn tynnu nôl o swydd newydd
Dynes yn osgoi carchar am smyglo cyffuriau
Cwblhau gwaith i amddiffyn Hirael rhag llifogydd
Caernarfon: cyhuddo dyn ar ôl cyrch cyffuriau
Lansio partneriaeth cyrchfan newydd ym Môn