Caernarfon: cyhuddo dyn ar ôl cyrch cyffuriau

Tuesday, 24 November 2026 at 15:44

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn 56 oed wedi cael ei gyhuddo o werthu cyffuriau yn dilyn cyrch yng Nghaernarfon.

Cafodd swm o gyffuriau Dosbarth A honedig, gan gynnwys cocên a chrac cocên, eu hatafaelu o gyfeiriad yn y dref ddydd Llun.

Atafaelwyd swm mawr o arian pariod hefyd, yn ogystal â'r hyn sy'n cael ei amau o fod yn ganabis.

Mae Richard Jones, o Landdeiniolen, ger Caernarfon, wedi’i gyhuddo o ddau gyhuddiad o feddu ar gyffur rheoledig Dosbarth B gyda’r bwriad o’i gyflenwi, a thrydydd cyhuddiad o feddu ar gyffur rheoledig Dosbarth A gyda’r bwriad o’i gyflenwi.

Mae hefyd wedi'i gyhuddo o feddu ar eiddo troseddol.

Roedd disgwyl i Jones ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Nia Griffith

    7:00pm - 9:00pm

    Sgwrs a cherddoriaeth da yng nghwmni Nia ar MônFM.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'