Dynes yn osgoi carchar am smyglo cyffuriau

Thursday, 26 November 2026 at 17:18

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Swydd Gaer

Mae dynes o Fangor wedi osgoi dedfryd o garchar ar unwaith am geisio smyglo cyffuriau i ŵyl Creamfields.

Cafodd Jessica Evans-Tomlinson, 22 oed, ei darganfod gan gi heddlu yn cario cocên ac MDMA, wedi’u cuddio mewn pot o hufen lleithio, wrth iddi gyrraedd yr wyl gerddoriaeth yn Daresbury, Swydd Gaer, ym mis Awst 2025.

Plediodd yn euog i dri chyhuddiad o feddu ar gyffuriau Dosbarth A (MDMA, cocên a 2C-B) gyda'r bwriad o'u cyflenwi.

Ceisiodd Evans-Tomlinson fynd i mewn i'r safle wrth y Porth De, pan nododd ci arogli ei bod hi'n bosibl ei bod yn meddu ar sylwedd anghyfreithlon.

Cafodd ei chwilio gan swyddogion, a ddarganfu ddau becyn yn cynnwys cyffuriau Dosbarth A, wedi'u lapio mewn ffoil y tu thewn i'r pot hufen lleithio.

Cafodd ei throi allan o'r ŵyl, ac yn ystod cyfweliad â'r heddlu, cyfaddefodd ei bod yn meddu ar y cyffuriau.

Yn Llys y Goron Caer ddydd Mercher, dedfrydwyd Evans-Tomlinson i 18 mis o garchar, wedi'u gohirio am 18 mis.

Dywedodd y Cwnstabl Victoria Adamson o dîm ôl-ddigwyddiad Creamfields yn Heddlu Swydd Gaer: "Bob blwyddyn, rydym yn atgoffa’r rhai sy’n mynd i ŵyl Creamfields nad ydym yn goddef unrhyw un sy’n ceisio smyglo sylweddau anghyfreithlon i mewn i’r safle, a’u bod yn wynebu cael eu herlyn os cânt eu dal yn gwneud hynny."

"Er bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cydymffurfio â hyn, rydym weithiau'n gweld ychydig o unigolion hyf sy'n credu y gallant gerdded yn syth trwy'r giatiau gyda symiau o gyffuriau wedi'u cuddio ar eu cyrff, heb gael eu hatal a'u chwilio."

"Fel croen sych, roedd ymgais Evans-Tomlinson i gael y pecynnau niferus o gyffuriau dosbarth A i mewn i Creamfields y tu mewn i dwb lleithydd ymhell o fod yn llyfn."

"Mae gan ein cŵn canfod cyffuriau sydd wedi’u lleoli ym mannau mynediad ac allanfa safle Creamfields drwynau anhygoel o bwerus sy’n gallu canfod y symiau lleiaf o sylweddau sydd wedi’u cuddio yn hyd yn oed y cynwysyddion mwyaf disylw, felly mae’n ymdrech ofer i geisio eu trechu."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'