Mae briciwr o Ynys Môn wedi ennill sioe realiti sydd wedi'i lleoli mewn bar yng Ngwlad Groeg.
Daeth Tyler Owen, 22 oed, i'r brig wrth i griw o chwech o bobl ifanc geisio rhedeg bar Cymreig ar ynys barti enwog Zante yn y gyfres S4C, Bar Hansh.
Roedd yn rhaid i’r cystadleuwyr wynebu amrywiaeth o sialensau er mwyn cynyddu’r wobr i hyd at £10,000.
Ar ddiwedd y bennod olaf, roedd Tyler, sydd bellach yn byw yng Nghonwy, yn fuddugol, gan ennill £7,500.
Dyweddod: "Dydi o dal ddim wedi setio mewn eto. Nes i ddim mynd mewn iddo fo yn meddwl fyswn i’n curo, jyst am y profiad i ddechrau. Dwi wedi neud ffrindiau am byth, cael profiadau mor dda a chael uffar o laff drwy’r holl beth – a troi allan mai fi ydi’r enillydd!”
Yn ôl Tyler, y peth mwyaf anodd oedd pleidleisio ei gyd-gystadleuwyr allan bob wythnos, ond fe wnaeth hefyd ffurfio cyfeillgarwch agos gyda’i gyd-gystadleuydd Elan yn ystod y ffilmio.
"Mae’r ffrindiau dwi wedi neud sicr yn ffrindiau am byth", meddai Tyler. "Allan o’r cast i gyd, fydda’i sicr yn cadw mewn cysylltiad efo Elan. Gwyliau on the horizon mae’n siwr!"
Mae gan Tyler gynlluniau yn barod ar sut i wario ei arian gwobr.
"I ddechrau, dwi sicr am bwcio gwyliau arall – siwr o fod efo Elan – cadw ychydig mewn savings, prynu rywbeth neis i fy hun, a rhywbeth neis i’r chwaer hefyd."
“Nes i gerdded mewn ddim yn gwybod be i ddisgwyl ond dwi’n cerdded allan efo Elan, ffrindiau am byth a lot o cash!”

Cyflwynydd y gyfres oedd yr actor Kevin Williams, oedd yn adnabyddus am chwarae rhan Kelvin Walsh yn y sebon leol Rownd a Rownd am dros 27 mlynedd.
Dyweddod Kevin: "Mae wedi bod yn haf gwych ar Bar Hansh – lot o highs, ac ambell i lows. A digon o chaos yn y canol!"
"Y gwaith drosodd, y shutters lawr ac mae bar hansh drosodd am haf arall."
Mae Bar Hansh ar gael i'w wylio ar sianel YouTube Hansh, S4C Clic a BBC iPlayer.


Tynnu sgaffaldiau oddi ar Bont y Borth
Dolgellau: cyhuddo dyn o anafu
Cwpan Cymru: Caergybi yn ymweld â Phenybont
Gweinidog yn agor ysgol newydd ym Mangor
Cwpan Cymru: Caergybi a Chaernarfon i'r pedwerydd rownd