Caiff grŵp newydd ei lansio i helpu i lunio dyfodol twristiaeth ar Ynys Môn.
Mae'r cyngor sir yn chwilio am unigolion a busnesau sydd â diddordeb yn y sector twristiaeth i dod yn aelod o'r 'Bartneriaeth Cyrchfan Ynys Môn'.
Mae'r bartneriaeth yn bwriadu cefnogi dull cynaliadwy o ddatblygu twristiaeth, drwy drafod y materion sy'n wynebu'r economi ymwelwyr a nodi cyfleoedd newydd.
Dwyeddod arweinydd Cyngor Môn, Gary Pritchard: "Mae nifer o bobl ledled Ynys Môn sy'n adnabod y sector twristiaeth yn arbennig o dda, boed hynny drwy redeg busnes, gweithio gydag ymwelwyr neu chwarae rhan yn eu cymuned leol."
"Rydym am ddod â rhywfaint o'r profiad hwnnw ynghyd drwy Bartneriaeth Cyrchfan Ynys Môn."
"Mae'n bwysig ein bod yn clywed gan gymysgedd da o bobl a sectorau. Os oes gennych ddiddordeb mewn twristiaeth a syniadau am allwn ddatblygu'r economi ymwelwyr mewn ffordd sy'n gweithio i Ynys Môn, byddwn yn eich hannog i ddatgan diddordeb."
Mae'r cyngor sir yn arbennig o awyddus clywed gan atyniadau ymwelwyr, darparwyr llety, busnesau bwyd a diod, cwmniau lletygarwch, sefydliadau cymunedol, busnesau lleol, trigolion ac eraill sydd â diddordeb mewn hyrwyddo Ynys Môn fel cyrchfan.
Disgwylir i'r bartneriaeth gyfarfod ddwywaith y flwyddyn, a bydd aelodau hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn grwpiau prosiect neu weithgorau pan yn briodol.
Ychwanegodd Christian Branch, pennaeth datblygu economaidd y cyngor: "Mae'r bartneriaeth am ganolbwyntio ar drafodaethau defnyddiol ac agored am dwristiaeth ar Ynys Môn a rhoi cyfle i bobl sy'n gweithio yn y sector ac o'i gwmpas gyfrannu."
"Nid oes angen i chi gynrychioli sefydliad mawr na busnes twristiaeth. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan bobl sydd â phrofiadau a safbwyntiau gwahanol, sydd â gwir ddiddordeb yn yr ynys ac sydd am chwarae rhan yn ei dyfodol."


Caernarfon: cyhuddo dyn ar ôl cyrch cyffuriau
Pont y Borth: gwaith wedi'i ohirio eto
Trefor: dyn yn pledio'n ddieuog i anafu
Helipad dwbl yn agor yn Ysbyty Gwynedd
Ap OgiOgi yn ennill gwobr Menter Iaith