Tân awyr agored yn Rhiwlas

Wednesday, 11 November 2026 at 17:39

By Ystafell Newyddion MônFM

GTAGC

Mae criwiau wedi treulio bron i bedair awr yn delio â thân yn yr awyr agored yn Rhiwlas, ger Bangor.

Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r pentref toc cyn 12.25yp prynhawn Mercher.

Yn ôl llefarydd, mynychodd dau gerbyd mynediad cul ac un pwmp achub i'r lleoliad, a daethpwyd â'r tân dan reolaeth toc wedi 4.20yp.

Roedd y Gwasanaeth Tân wedi galw ar bobl i gadw draw o’r pentref tra bod trigolion lleol yn cael eu hannog i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau.

Credir bod y digwyddiad yn ymwneud â llosgiad rheoledig yn yr ardal.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Brecwast MônFM gyda Kev Bach

    7:00am - 10:00am

    Bore da! Mae Kev Bach yn nôl i ddeffro Ynys Môn a Gwynedd!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'