Efeilliaid caredig yn ennill gwobr maethu

Wednesday, 18 November 2026 at 17:47

By Ystafell Newyddion MônFM

Fôn Roberts (Cyngor Môn); Kiri Prichard-McLean; Ilaria Zanier (gweithiwr cymdeithasol); Violet a Renée; a'u rhieni, Sarah a Simon.

Mae efeilliaid o Ynys Môn, sy'n rhan o deulu maeth, wedi cael eu cydnabod gyda gwobr genedlaethol arbennig.

Mae Renée a Violet, sy'n 10 oed, wedi bod yn croesawu plant maeth i'w cartref ers y pedair blynedd diwethaf.

Mae'r chwiorydd wedi'u henwi'n enillwyr Gwobr Xeinadin ar gyfer plant gofalwyr maeth yng ngwobrau Rhagoriaeth Maethu am ragoriaeth.

Yn ôl y beirniaid, cawsant eu cydnabod am y trugaredd, y caredigrwydd a'r ymroddiad maent wedi'i ddangos wrth gefnogi plant sydd wedi profi colled, ansicrwydd a thrawma.

Cafodd Renée a Violet eu henwebu gan weithiwr cymdeithasol eu teulu, Ilaria Zanier o Maethu Cymru Môn.

Dyweddod: "Dros y blynyddoedd mae Renée a Violet wedi croesawu plant maeth i'w teulu gyda chynhesrwydd, caredigrwydd a derbyniad."

"Pan ofynnwyd i'w rhieni ddarparu gofal brys i blentyn tra roedd plentyn maeth arall eisoes yn byw yn y cartref, bu Renée a Violet yn helpu i greu lle ychwanegol mewn ystafell wely fel y gallai'r plentyn hwnnw aros."

"Nid anghyfleustra oedd eu hymateb nhw, ond trugaredd."

Roedd y beirniaid yn arbennig o hoff o'r gweithredoedd caredig dyddiol a oedd wedi gwneud gwahaniaeth parhaol i'r plant yn eu gofal.

Roedd yr enwebiad yn disgrifio sut mae'r chwiorydd yn aml yn cynnig cysur, sicrwydd a chefnogaeth ymarferol i frodyr a chwiorydd maeth iau, gan eu helpu i ymdopi â phrofiadau anodd a theimlo'n rhan o'r teulu.

Er eu bod wedi profi'r tor calon o ffarwelio â brodyr a chwiorydd maeth sydd wedi symud ymlaen, mae Renée a Violet yn parhau i groesawu plant newydd gyda chydymdeimlad, gwydnwch a dealltwriaeth.

Yn ôl un o'u brodyr maeth: "Roedd Renée a Violet yn groesawgar iawn pan symudais atynt ac maen nhw wedi fy helpu i deimlo'n fwy hyderus ac yn fwy cyfforddus. Maen nhw bob amser yn fy nghynnwys ym mhopeth maen nhw'n ei wneud ac rwy'n ddiolchgar iawn fy mod yn cael byw efo nhw."

Cynhaliwyd y gwobrau yn Birmingham wythnos diwethaf gan y comediwr o Môn, Kiri Pritchard McLean, sydd hefyd yn ofalwr maeth seibiant ac yn eirolwr brwd dros wasanaethau maeth gan awdurdodau lleol.

Ar draws y 17 categori, roedd wyth o'r enillwyr yn dod o Gymru, yn cynrychioli dros 3,500 o deuluoedd maeth sy'n cefnogi bron i 4,900 o blant mewn gofal.

Dyweddod Fôn Roberts, cyfarwyddwr gwasanethau cymdeithasol Cyngor Môn: "Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth wych o'r trugaredd, y cydymdeimlad a'r caredigrwydd eithriadol y mae Renée a Violet wedi'i ddangos."

"Mae maethu'n ymdrech deuluol, ac mae plant gofalwyr maeth yn chwarae rhan hanfodol wrth groesawu, cefnogi a gofalu am blant sy'n ymuno â'u teuluoedd. Gyda'i gilydd, maent yn helpu i greu amgylcheddau diogel a chariadus lle gall plant a phobl ifanc ffynnu."

Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, sy'n dal y portffolio plant a theuluoedd ar y cyngor: "Gwobrau blynyddol Rhagoriaeth Maethu yw'r gwobrau gofal maeth mwyaf blaenllaw yn y DU."

"Maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol yn y maes maethu, ac yn cydnabod y rhai sy'n gwneud cyfraniadau arbennig i ofal maeth bob dydd."

"Rydym felly yn hynod falch o Renée a Violet, ac o'n holl deuluoedd maeth, am y gwahaniaeth y maent yn ei wneud bob dydd."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'