Rhybudd cau ar gyfer tŷ ym Mangor

Wednesday, 16 September 2026 09:22

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi rhybudd cau dros-dro ar gyfer tŷ ym Mangor yn dilyn pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Fe wnaeth swyddogion cymdogaeth lleol weithredu y rhybudd ar eiddo yn ardal Llys Mair ddydd Mawrth, yn dilyn adroddiadau a thystiolaeth o ymddygiad sydd wedi achosi, niwsans, dychryn, a phryder i bobl sy’n byw’n gyfagos.

Fel canlyniad i’r rhybudd, ni chaiff aelodau o’r cyhoedd fynychu’r eiddo heb fod ganddynt awdurdod penodol i wneud hynny am gyfnod penodol.

Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn pwyso i mestyn cyfnod y rhybudd cau drwy'r llysoedd.

Dyweddod y Arolygydd Ardal, Jamie Owens: "Mae hyn yn gam positif ymlaen yn ein hymdrechion parhaus i daclo ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn ardal Llys Mair, Bangor."

"‘Rydym yn ymrwymedig i gydweithio’n agos gyda’n partneriaid i amharu ar ymddygiad gwrth-gymdeithasol, gan wella safon byw y trigolion lleol."

"Hoffwn ddiolch i aelodau’r gymued sydd wedi adrodd eu pryderon a rhannu gwybodaeth gyda’r Heddlu er mwyn cefnogi’r mesur hwn."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Brecwast MônFM gyda Kev Bach

    7:00am - 10:00am

    Bore da! Mae Kev Bach yn nôl i ddeffro Ynys Môn a Gwynedd!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'