Mae cwest wedi'i agor yn dilyn marwolaeth dyn 53 oed mewn fflat yng Nghaergybi.
Bu farw Michael Ward yn Llys Watling ar Ffordd Llundain yn oriau mân dydd Sadwrn 17 Hydref.
Mae ei fab, Martin Ward, 33 oed, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Mae archwiliad post-mortem wedi canfod bod Mr Ward, wedi dioddef anafiadau i'w ben a'i wddf.
Dywedodd Sarah Riley, y coroner cynorthwyol dros Ogledd-orllewin Cymru, bod gwasanaethau brys wedi cael eu galw i’r fflat yn dilyn adroddiad am ataliad ar y galon.
Datganwyd bod Mr Ward wedi marw yn y fan a'r lle toc wedi 3yb.
Mewn teyrnged yn dilyn marwolaeth Mr Ward, a oedd yn wreiddiol o Wolverhampton, dywedodd ei deulu: "Roedd ein tad yn ddyn teulu cariadus hefo calon fawr. Bydd colled fawr ar ei ôl."
Cafodd yr cwest yng Nghaernarfon ei ohirio tan ddyddiad diweddarach tra bod achos troseddol yn parhau.
Mae Martin Ward wedi'i gadw yn y ddalfa tan wrandawiad ple yn mis Ionawr.


Pennaeth bwrdd Betsi i adael ei swydd
Bysiau yn lle trenau yn ystod cau'r rheilffordd
Connor yn ennill gwobr Chwaraewr y Mis
Prif swyddog newydd i drefnwyr Sioe Môn
Carchar i ddyn ar ôl torri amodau hysbysiad