Bydd Ynys Môn yn cynnal Ras Gyfnewid Baton y Brenin ddydd Mawrth, cyn Gemau'r Gymanwlad 2026 yng Nglasgow.
Dyma'r ail dro mewn pedair blynedd i'r digwyddiad ymweld â'r ynys yn dilyn gemau 2022, a gynhaliwyd yn Birmingham.
Bydd y baton yn cael ei gludo gan nifer o unigolion ysbrydoledig, gan gynnwys pencampwyr Gemau'r Gymanwlad, athletwyr elitaidd a phencampwyr lleol gyda chyfres o ddigwyddiadau arbennig wedi'u cynllunio drwy gydol y dydd.
Bydd y ras gyfnewid baton yn cynnwys taith arbennig ar Y Fenai a chymal braf yng Nghoed Cyrnol ym Mhorthaethwy; dathliad cymunedol ym Mae Trearddur, gyda'r Awyrlu yn hedfan dros ben, ac ymweliad arbennig a Chanolfan Addysg y Bont yn Llangefni.
Dywedodd Dylan J. Williams, prif weithredwr Cyngor Môn: "Mae croesawu Ras Gyfnewid Baton y Brenin i Ynys Môn yn anrhydedd fawr."
"Mae'n gyfle gwych i ddathlu llwyddiant mewn chwaraeon, cydnabod cyfraniad ein hathletwyr talentog ac, yn holl bwysig, ysbrydoli ein cymunedau i fyw bywydau egnïol ac iach. Rydym yn falch o chwarae rhan yn y daith arbennig hon ledled Cymru a thu hwnt."

Bydd tîm athletau Cymru eleni yn cynnwys Cari Hughes, sy'n byw yn Amlwch ac a fydd yn cystadlu yn y ras ffos a pherth 3000 medr i ferched ddydd Llun 27 Gorffennaf.
Cari yw'r athletwr cyntaf i gynrychioli Ynys Môn yng Ngemau'r Ynysoedd o'r blaen, ar ôl ennill medal arian yn y 1500m i ferched yng Ngernsey yn 2023.
Mae'r trefnwyr yn annog trigolion lleol i gefnogi ras gyfnewid y baton ac ymuno yn y dathliadau, gyda'r nod o dynnu sylw at bwysigrwydd aros yn egnïol a chael pobl o bob oed i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, prif swyddog gweithredol Tîm Cymru: "Bydd Diwrnod 5 Ras Gyfnewid Baton y Brenin yn cyfleu'n berffaith yr hyn y mae chwaraeon yn ei olygu i gymunedau ledled Cymru."
"O ddyfroedd Y Fenai i lannau Bae Trearddur ac i galon Canolfan Addysg Y Bont, rydym yn dathlu nid yn unig ein tirweddau anhygoel ond y bobl sy'n dod â chwaraeon yn fyw bob dydd."
"Mae'r daith hon yn ymwneud â chysylltiad, ysbrydoliaeth a sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u cefndir neu eu gallu, yn teimlo'n rhan o Dîm Cymru."
Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Roberts, sy'n deilio portffolio hamdden y cyngor sir: "Mae'n fraint gweld y baton yn cyrraedd Ynys Môn ac yn rhoi llwyfan Cenedlaethol i'n cymunedau."
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd yn cludo'r baton wrth iddynt hyrwyddo chwaraeon ac ysbrydoli eraill."
"Diolch yn fawr hefyd i'n tîm hamdden MônActif am eu gwaith caled wrth weithio ochr yn ochr â Thîm Cymru i drefnu'r ymweliad cyffrous hwn, a fydd, rwy'n gobeithio, yn creu etifeddiaeth barhaol ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon ar draws yr ynys."


Cynllun pum mlynedd i wella cyfleusterau pêl-droed
Corff dyn wedi'i ganfod yn Eryri
Beddgelert: dyn yn marw mewn damwain beic modur
Burwen: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad
Enw 'Gwyndod' ar gyfer orsaf newydd Wylfa