Mae’r heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n trin marwolaeth dyn o Bwllheli fel amheus.
Cafodd dyn lleol ei arestio yn dilyn marwolaeth yn y dref brynhawn Sadwrn.
Mae wedi cael ei ryddhau o’r ddalfa yn ddigyhuddiad.
Bydd ditectifs yn paratoi ffeil ar gyfer y crwner lleol, cyn cwest.
Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein meddyliau’n parhau i fod gyda theulu a ffrindiau’r person fu farw.”
”Hoffem hefyd ddiolch yn fawr i’r gymuned ym Mhwllheli am eu hamynedd a’u cydweithrediad tra roedd ymholiadau’n cael eu cynnal yn yr ardal.”


Er cof am Gwyn Owen
Pont y Borth i gau eto
Hysbysiad cau ar gyfer tŷ yn Llangefni
Gorsedd: Gwisg Werdd i Malachy
Llys yn gorfodi cau siop yng Nghaernarfon