Prosiect i adfywio byd natur yn Nant Ffrancon

Tuesday, 8 September 2026 15:24

By Ystafell Newyddion MônFM

NTI / Paul Harris

Mae gwaith wedi dechrau ar gynllun tair blynedd i wyrdroi dirywiad byd natur yn Nant Ffrancon.

Bydd bron i £1 miliwn yn cael eu gwario ar brosiect Natur i Bobl, sydd â'r nod o adfer rhywogaethau prin mewn ardal sy'n wynebu dirywiad ecolegol difrifol.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, sy'n arwain y cynllun, mae cynefinoedd yn y dyffryn wedi dod yn rhanedig ac mae rhai o rywogaethau Cymru sydd fwyaf dan fygythiad, gan gynnwys mwyalchen y mynydd a llinos y mynydd, mewn perygl o ddiflannu.

Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar fwy na 1600 hectar o gynefinoedd - wedi'u lleoli ar dir sy'n cael ei ofalu amdano gan yr Ymddiriedolaeth - gyda blaenoriaeth ar gors ucheldir, rhostir mynyddig, afonydd a glaswelltiroedd blodau gwyllt.

Bydd arolygon ecolegol a monitro rheolaidd yn mapio effaith y gwaith ar adfer Nant Ffrancon, gan ddefnyddio rhywogaethau megis bele’r coed a dyfrgwn, a phlanhigion megis aethnen a meryw fel dangosyddion o iechyd y dyffryn wrth i’r prosiect fynd rhagddo.

Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys cymunedau lleol yn yr ardal, gan gynnwys ffermwyr tenant, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner.

Dyweddod Simon Rogers, rheolwr y prosiect gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Mae Nant Ffrancon yn un o dirweddau mwyaf arbennig Cymru, ond fel sawl lle, mae’n wynebu heriau sylweddol oherwydd colli cynefinoedd a dirywiad mewn bioamrywiaeth."

"Rydym wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol, ac mae angen i ni weithredu nawr."

"Mae Natur i Bobl Nant Ffrancon yn rhoi cyfle cyffrous i ni weithio ochr yn ochr â chymunedau lleol, ffermwyr a phartneriaid, i adfer ac uno cynefinoedd sy’n well i fyd natur, cefnogi rhywogaethau dan fygythiad a chreu dyfodol mwy gwydn i’r dyffryn."

"Wrth adeiladu ar waith adfer byd natur blaenorol a pharhaus yn yr ardal, a rhoi pobl wrth wraidd yr adferiad byd natur, rydym yn gobeithio creu gwaddol parhaol lle gall bywyd gwyllt, ffermio a chymunedau ffynnu gyda’i gilydd a lle all bywyd gwyllt ffynnu am genedlaethau."

Mae'r cynllun yn cefnogi nifer o brosiectau lleol, gan gynnwys Tlysau Mynydd Eryri, sy'n defnyddio coleri da byw GPS i reoli pori yn fwy effeithiol ym Mlaen y Nant, fferm draddodiadol yr ucheldir ar ochr orllewinol Nant Ffrancon.

Ym mis Chwefror, dechreuwyd gwaith ar adfer Afon Ogwen a'i hisafonydd mewn ymdrech i wella iechyd afonydd, creu cynefinoedd bywyd gwyllt newydd a gwneud lle i ddŵr yn y dirwedd.

Gwahoddir unrhyw un sydd yn awyddus i ddysgu rhagor i fynychu Diwrnod Cymunedol Nant Ffrancon ar ddydd Sadwrn 3 Hydref ar fferm Blaen y Nant.

Yn ystod y diwrnod bydd ras hwyl, cerddoriaeth fyw, sgyrsiau llawn gwybodaeth ac ystod o weithgareddau, gan roi cyfle i gymryd rhan yn y prosiect a helpu i lywio cynlluniau’r dyfodol.

Derbyniodd y prosiect #NNF5 Natur i Bobl Nant Ffrancon arian drwy Gronfa Rhwydweithiau Natur, yn cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    11:00pm - Midnight

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'