Mae Pont y Borth ar gau yr penwythnos hwn wrth i ail gam y gwaith cynnal a chadw barhau.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ceblau cyfathrebu heb eu diogelu o dan y bont yn peri risg diogelwch uniongyrchol.
Mae sgaffaldiau eisoes wedi'u gosod, ond cyn i'r gwaith barhau, rhaid sicrhau'r ceblau, sy'n darparu cysylltiadau rhwng Ynys Môn ac Iwerddon.
Mae un lôn wedi gau bob dydd rhwng 10yb a 6yh ers dydd Mercher ond bydd y bont ar gau'n llawn i draffig o 2yp prynhawn dydd Gwener (15 Mai) tan 6yh nos Sadwrn (16 Mai).
Bydd un lôn ar gau eto bob dydd rhwng 10yb a 6yh than dydd Gwener nesaf (22 Mai), ddiwrnod cyn dechrau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mona.
Bydd dargyfeirio yn ystod y cau dros Bont Britannia a bydd cerddwyr a beicwyr oddi ar eu beiciau yn gallu croesi'r bont.
Y mis diwethaf, caewyd y bont ddwywaith ar gyfer archwiliadau diogelwch yn dilyn croesiadau gan gerbydau gorbwysau.
Dwyeddod llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau y tarfu tra bod y gwaith pwysig hwn yn cael ei wneud, a diolchwn i'r gymuned am eu hamynedd parhaus."
"Mae hi'n dal i fod yn hanfodol gorfodi'r terfyn pwysau 7.5 tunnell er mwyn gallu parhau i ddefnyddio'r bont yn ddiogel tra bo'r gwaith yn mynd yn ei flaen."
"Os bydd cerbyd uwchlaw y terfyn hwn yn croesi'r bont, yna bydd yn rhaid ei chau ar gyfer archwiliad llawn. Mae cadw at y terfyn cyflymder ar y bont hefyd yn hanfodol ar gyfer diogelwch y gweithlu."


Newidiadau mawr i amserlenni trên
Talwrn: benthyciad ar gyfer prosiect tai
Urdd 2026: Môn yn codi £380k
Cyngor Gwynedd yn ethol cadeirydd newydd
Gwynedd i ymgynghori ar 'dreth twristiaeth'